o ysbytty lle gellid derbyn personau wedi eu clwyfo a'u hanafu. Er nad oes yma gymaint o nifer yn gweithio ag sydd yn Bethesda neu Lanberis, eto pan ystyriom ansawdd beryglus y cloddfeydd, a'r dull peryglus a gymerir i'w gweithio, yr ydym yn gwbl sicr fod y damweiniau yma yn cymeryd lle yn fwy mynych nag yn y lleoedd a enwyd; ond y mae ganddynt hwy bob un ei hospital i dderbyn y dioddefwyr, lle ceir ymgeledd uniongyrchol, a phob angenrheidiau wrth law er gweini yr ymgeledd oreu i'r trueiniaid. Ond yn Nant Nantlle nid yw yn beth anghyffredin cludo dynion ar ysgwyddau, neu mewn cerbydau, filltiroedd o ffordd, a'u gwaed yn ystaenio y llwybrau, er gwanychdod dirfawr trwy y fath ddyhysbyddiad o adnoddau bywyd. Gwir fod genym feddygon rhagorol, yn ddynion medrus a charedig, nodedig felly; ond y maent yn byw yn mhell oddiwrth y gweithydd, y mae gofal gwlad eang, a phlwyfydd mawrion ar eu hysgwyddau; a phan fyddo fwyaf angenrheidiol wrthynt, dichon na fydd un ohonynt i'w gael. Y mae y fath ystyriaethau, dybiwn ni, yn galw am welliant effeithiol yn hyn, ac ni cheir mo hono nes neillduo ysbytty, a chael gwasanaeth meddyg arosol, a phob angenrheidiau wrth law i weini yr ymgeledd fwyaf prydlawn. Nid oes amheuaeth, yn ein meddwl ni, nad oes aml i fywyd gwerthfawr wedi ei golli ag y gallesid ei arbed trwy ymgeledd brydlawn. Tybed fod perchenogion y cloddfeydd mor anheimladwy o gysur eu gweithwyr tlodion fel y gomeddant ymsymud yn y cyfeiriad hwn! neu a ydyw y gweithwyr mor ddiofal o'u cysur eu hunain fel y maent hwythau yn annheimladwy o'i bwysigrwydd? Os ydyw y cyntaf yn bod y maent yn annheilwng iawn o ddyngarwyr a boneddigion; ac os y diweddaf, rhaid eu bod yn ymfoddloni o dan fwy o anfantais na'u cyd-alwedigion mewn cymydogaethau ereill, y rhai sydd wedi eu bendithio â'r fath sefydliadau ag y cyfeiriwyd atynt, trwy y rhai y mae y rhai sydd yn cael y fantais oddiwrth feibion llafur wedi dangos gofal priodol a chanmoladwy am eu cysuron.
Cwynai un ysgrifenydd a fu yn ymweled â'r lle hwn tua 50 mlynedd yn ol, nad oedd gan y chwarelwyr y pryd hyny unrhyw ddarpariaeth ar gyfer damweiniau ac afiechyd. Ond pe gallasai yr awdwr parchedig fod yn bresennol yn Mhenygroes ar Ddydd Llun y Sulgwyn, gallasai weled cannoedd o bobl, tyn hen, canol oed, ac ieuenctyd, yn cadw gwyl flynyddol eu cymdeithasau, pawb o dan ei luman ei hun, ac yn cydwledda â'u gilydd yn un gymdeithas garedig a chyfeillgar. Yn y flwyddyn 1838 y sefydlwyd cymdeithas yn Llanllyfni, o dan yr enw Cymdeithas Gyfunol Brodorion Llyfnwy, yr hon erbyn hyn sydd yn rhifo tua 500 o aelodau, gydag ariansawdd o yn agos i 1000 o bunnan. Ysgrifenydd presennol y gymdeithas hon yw Mr. W. Williams, Victoria Vaults, Penygroes. Yn 1843 ffurfiwyd cymdeithas arall yn Mynydd y Cilgwyn, yr hon a ymgyferfydd yn Pisga, Capel yr Annibynwyr, ac sydd yn rhifo 380 o aelodau, gydag ariansawdd o dros 1000 o bunnau. Yr ysgrifenydd yw Mr. O. Rogers, Frondeg. Tua thair blynedd yn ol sefydlwyd cymdeithas arall yn Talysarn o dan yr enw Cymdeithas Gyfeillgar Dyffryn Nantlle, rhifa tua 200 o aelodau gydag ariansawdd o yn agos i 100 punt. Yr ysgrifenydd yw Mr. D. Pritchard, Ty Mawr.