Erbyn 1848, gwelid yn bur amlwg y byddai galwedigaeth arall yn fwy cydnaws â'i chwaeth nag amaetha; a chan ei fod mor hoff o lyfr, pa grefft mor gyfaddas iddo a'r un o wneud llyfrau? Cafwyd lle iddo fel egwyddorwas gydag argraffydd yn Nghroesoswallt; a bu yno ar brawf am dri mis, ond deuai gartref o nos Sadwrn tan fore dydd Llun i dreulio'r Sul. Ar ddiwedd cyfnod y prawf, pan aed i hwylio ei rwymo, cafodd ef a'i rieni allan fod yn rhaid iddo wasanaethu am saith mlynedd. Meddylid fod hyny yn rhy hir o amser, ac yn wir nid oedd ei serch yntau at y gelfyddyd ychwaith yn angherddol. Felly, gadawodd hi; a da hyny, canys deg i un na chollasem y bardd melusber yn yr argraffydd. Ychydig o feirdd da a fagwyd yn mysg pigwyr llythyrenau; Cawrdaf, mae'n debyg, oedd y goreu yn mysg y Cymry.
Yn nechreu y flwyddyn ganlynol (1849), aeth i Fanchester, at gâr iddo o'r enw Thomas Williams, yr hwn oedd yn cadw siop grocer yn Oxford Street, Dyma ei fynediad cyntaf gwirioneddol oddicartref, canys yn Nghroesoswallt yr oedd megys o fewn cyrhaedd galw. Y mae wedi costrelu ei brofiad ei hun, a phryder ei fam, yn y cyfwng pwysig hwn ar ei fywyd mewn cân nodedig o effeithiol, yr hon a welir yn yr Oriau Eraill:
"Mae John yn myn'd i Loeger,
A bore foru'r ä,
Mae gweddw[1] fam y bachgen
Yn gwybod hyny'n dda;
Wrth bacio'i ddillad gwladaidd,
A'u plygu ar y bwrdd,
Y gist ymddengys iddi
Fel arch yn myn'd i ffwrdd.
- ↑ Defnyddia'r bardd y gair gweddw yma, er mwyn cryfhau, a hwyrach ddyeithrio y darlun; gan nad oedd ei fam yn weddw ar y pryd yn ystyr gyffreddin y gair.