Mae ef yn hel ei lyfrau
I'r gist sydd ar y llawr,
Yn llon, gan feddwl gweled
Gwychderau'r trefydd mawr;
Nis gwel er deigryn dystaw
Ar rudd y weddw drist,
Na'r Beibl bychan newydd,
A roddwyd yn y gist."
Tua cyhyd o amser ag y bu yn brinter y bu hefyd yn grocer, canys rhoes ei gâr a'i feistr y fasnach i fynu; a chafodd le wedi hyny fel ysgrifenydd yn ngorsaf nwyddau London Road, Manchester. Arosodd yma am un mlynedd ar bumtheg, a dringodd o ris i ris yn y gwasanaeth nes bod ganddo cyn ymadael haner cant o glercod tano. Yr oedd y cyfnod hwn y pwysicaf, ar lawer ystyr, yn ei holl fywyd; oblegyd cynwysai nid yn unig y drydedd ran o'i oes, ond dadblygwyd ynddo adnoddau cyfoethog ei alluoedd meddyliol. Cyrhaeddodd Fanceinion yn fachgen ieuanc gwladaidd a hawddgar, newydd adael ei ddwyar-bumtheg oed, a gwrid y bryniau ar ei ruddiau, ac awen burwen yn berwi" yn ei ysbryd nwyfus. Yr oedd wedi ei fendithio gan natur â'r ddawn werthfawr o benderfyniad cryf; ac efe a benderfynodd. Nid i fod yn gyfoethog, nac yn un o brif farsiandwyr y ddinas fawr hono, onide goludog ac un o brif farsiandwyr Manchester a fuasai; canys ychydig iawn o'r sawl a enillasant gyfoeth a feddent ei gymhwysderau a'i gyneddfau ef at y cyfryw lwyddiant. Yn ffodus, nid yw cyfoethogion yn brinion, ond yn anffodus y mae beirdd fel Ceiriog yn neillduol o brinion. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu hefo synwyr cryf; ac fel y prawf cynlluniau cywrain llawer o'i gynyrchion, yr oedd yn gryn athronydd heblaw bod yn fardd. Y gallu hwn a barodd iddo sylwi yn fuan ar ol gadael cartref fod lleoedd gweigion yn ystafelloedd ei feddwl, a phenderfynu mai goreu bo'r cyntaf eu dodrefnid â gwybodaeth a dysg. I lanc o'i an-