ianawd ef yr oedd meddwl gwag yn fater annhraethol fwy difrifol na logell wag. Parodd hyn iddo ymroi yn ddioedi i ddarllen ac efrydu, ac i gyflwyno pob awr hamddenol ar ei elw i hunan-ddiwylliant; nes y daeth llafur meddyliol yn ail natur iddo ac yn wir bleser. Dywed un a'i hadwaenai yn dda am dano yn y cyfnod hwn:-" Wedi darfod â'i oruchwylion y dydd, ceid ef bob amser gartref-o'r adeg y deuai adref hyd amser gorphwys, a'r amser hwnw yn hwyr iawn fynychaf. Darllen, cyfansoddi, ysgrifenu, oedd ei fwyd a'i ddiod. . . . . Y mae yma wers dda i ieuenctyd ein gwlad i'w hefelychu, o gymeryd rhywbeth gwerth i ymdrechu ato yn eu horiau hamddenol. Nid llawer o ddaioni a geir o un bachgen ieuanc os bydd efe allan yn barhaus. Gellir dweyd am fywyd Ceiriog Hughes mai bywyd o lafur meddyliol ydoedd, os llafur hefyd iddo ef. Dyna bleser ei fywyd; a thrwy ei fywyd ymroddgar, efe a wnaeth lawer o les. Anfynych y bydd cyngherdd Cymreig heb gan o'i waith ef yn gwefreiddio y dyrfa; a bydd y cyrddau hyn fynychaf wedi eu paratoi at rhyw achosion daionus, megys tynu dyled capelau ac ysgolion, neu rhyw elusenau i'r weddw a'r amddifad."—IDRIS VYCHAN yn y "Darlunydd."
Dechrau barddoni
Fe welir oddiwrth y dystiolaeth uchod fod y llanc yn ddigon craff eisoes i ddeall fod eisio "cyfansoddi ac ysgrifenu" cystal a "darllen," wrth ddysgu; ac nad yw darllen yn unig ond haṇer yr oruchwyliaeth; y mae cynull y cnwd i'r ydlan yn waith angenrheidiol, ond byddai ei adael yno i fraenu ar ei gilydd yn gwneud y llafur cyntaf yn anfuddiol.
Pa bryd y dechreuodd efe gyfansoddi barddoniaeth, a pha ddernyn oedd blaenffrwyth ei awen, nis gwyddom. Efallai iddo ddechreu yn union wedi cartrefu yn Manchester, efallai cyn hyny; pa fodd bynag, enillodd ei wobr gyntaf mewn cyfarfod llenyddol a gynelid yn nghapel Grosvenor Square. Yr