oedd wedi meistroli y cynghaneddion, ac yn ymgeisydd buddugol mewn Eisteddfod fechan a gynelid yn Nantglyn, erbyn 1853. Y testyn ydoedd, "Coffadwriaeth y Doethawr William Owen Pughe"; ac fel y bu chwithaf y tro, enillodd dyfodol briffardd telynegol Cymru ei lawryf cyntaf oddicartref am ddau englyn; ac yn mhellach, un a ddaeth ar ol hyny gyda'r mwyaf gwreiddiol o'n holl feirdd, wedi benthyca y prif ddrychfeddwl sydd yn yr englynion hyny o waith Pope, sef, "God said let Newton be, and there was light." Dyma yr englynion:
"Pan ydoedd niwloedd a nos—ar iaith yr
Hil Frython yn aros;
'Cyfod, Puw,' ebai Duw, 'dos
I ddwyn eu hiaith o ddunos.'
Ac yna goleuni canaid—a roed
Ar iaith ein henafiaid;
A'n llên oedd fel gem mewn llaid,
Hwn a'i dygai'n fendigaid."
Dair blynedd yn ddiweddarach, yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain, 1856, cynygid gwobr am y "Chwe' Englyn goreu i John Elias," a chawn ef yn ymgeisydd. Yr oedd yn gystadleuaeth mor ragorol, fel y penderfynodd y ddau feirniad, Eben Fardd a Hiraethog, ddewis y chwe' englyn goreu o waith yr amrywiol ymgeiswyr; a dyma'r un a ddewiswyd o restr Ceiriog:
"Ei law arweiniai luoedd—i weled
Ymylon y nefoedd;
Nerth fu i'n hareithfaoedd,
A gloew sant ein heglwys oedd."
Yn yr un Eisteddfod, enillodd ar y chwe' phenill er cof am "Etifedd Nanhoron," Cadben R. Lloyd Edwards, yr hwn a laddwyd mewn brwydr o flaen Sebastopol, yn ystod y nos. Y mae'r chwe' phenill ar yr un mesur, ac yn yr un cywair, a'r Death of Sir John Moore; ac er nad oes yr un drychfeddwl yn