y ddwy gân yr un fath, eto wrth ddarllen y naill anhawdd ydyw peidio meddwl am y llall. Y mae yn glod nid bychan i'r Cymro ieuanc, tan ei 24ain oed, ei fod yn gallu cyfansoddi cân hafal i un o'r caneuon tlysaf yn yr iaith Saesneg, er i hono fod o ran ei hanian yn fath o efelychiad. Prawf y ddau benill canlynol fod y bardd eisoes, er ieuenged ydoedd, yn gallu bathodi brawddegau barddonol teilwng ohono ei hun mewn oedran addfetach:
"Yn mlaen!' medd ein Cadben-'yn mlaen!' oedd ei lef;
Aem ninau ar warthaf y gelyn:
Ychydig feddyliem mai marw 'roedd ef,
Pan oedd yn anadlu'r gorchymyn.
Wrth ini ddychwelyd, canfyddem y lloer
Trwy hollt yn y cwmwl yn sylwi,
Gan ddangos ein Cadben â'i fynwes yn oer-
Mor oer a'r bathodyn oedd arni."
Fel lluaws o wir feibion athrylith Cymru, dechreuodd Ceiriog fel gweithiwr haiarn wedi ei godi o fwngloddiau eraill. Nid oedd ei ddarnau boreuaf yn nodedig am wreiddioldeb, nac yn cynwys unrhyw arbenigrwydd nodweddiadol ohono ef ei hun; ond yr oeddynt mor gelfyddgar o ran ymadroddion cymen a dillyn a dim a wnaeth yn ol llaw. Yn raddol yr agorodd efe ei fwnglawdd goludog ei hun; a pho dyfnaf y treiddiai yn hwnw, goreu oll oedd y mŵn. Yn nghyntaf gweithiwr celfydd, cywrain; wedi hyny, yn codi y defnyddiau o'i dir ei hun. Darllen llawer ar waith y pencampwyr llenyddol yr oedd yn y cyfnod hwn ar ei fywyd; a'r drychfeddyliau mawrion a welai wrth ddarllen felly yn aros yn ei gôf, nes dyfod yn rhan ohono; wedi hyny, ac yn raddol, y daeth yn feddyliwr gwreiddiol, ac yn ddarfelydd annibynol. Credwn fod hyn yn nodwedd arbenig lluaws o athrylithiau pob gwlad a phob oes. Cyhuddir Shakespeare o arwynebedd ac anwreiddioldeb yn ei gynyrchion cyntaf; a dyna un o'n prif feddyl-