wyr ninau, Christmas Evans, pe buasid yn cospi am dori yr wythfed gorchymyn mewn ystyr lenyddol, yn ngharchar Aberteifi y cawsid ef ar ol ei bregeth gyhoeddus gyntaf. Yr oedd Ceiriog yn ddigon dieuog o ddim yn ymylu ar lên yspeiliad; cydnebydd ei ddyled am y syniad o eiddo Pope; a'n hunig esgusawd am grybwyll y sylw ydyw ceisio dangos fod hyd yn nod ei wendidau bychain yn nodweddiadol o athrylith uchelryw.
Tynodd sylw yn fuan yr amryw lenorion a llengarwyr Cymreig oeddynt yn trigianu yn Manchester; ac enynwyd cyfeillgarwch rhyngddo â hwynt nas gallodd dim ond angau ei enhuddo. Yn eu mysg yr oedd Creuddynfab, R. J. Derfel, Pedr Mostyn, Idris Fychan, Parch. O. Jones (Meudwy Mon), Mr. J. Francis (Mesuronydd), Gwilym Elen, Tanad, ac eraill. Bu Ab Ithel hefyd am dymhor yn byw yn Middleton, ger y ddinas, a'r adeg hono y daeth y ddau gyntaf i gydnabyddiaeth â'u gilydd. Yr oedd gan Gymry llengar Manchester Gymdeithas Lenyddol deilwng yn eu mysg—Cymdeithas y Cymreigyddion y gelwid hi, a'i llywydd ydoedd Mr. Francis; dyn mawr, penwyn, rhadlon, bodlon, oedd Mr. Francis, ac yn Gymro gwladgar o'i goryn i'w sawdl. Yr oedd yn Lerpwl hefyd ar yr un pryd Gymdeithas o Gymreigyddion, llywydd yr hon ydoedd Dr. Games, disgynydd o Syr Dafydd Gam; a phe buasai eisiau dangos dwy engraifft o ddau hen Gymro gewynog, nerthol, deallgar, anhawdd fuasai cael gwell y ddau lywydd hyn. Llanwai Mr. Francis y swydd bwysig o City Surveyor Manchester; ac yr oedd y Dr. Games, heblaw bod yn feddyg galluog, yn ddyn neillduol o wybodus ac yn siaradwr campus. Penderfynodd y ddwy Gymdeithas gydgynal eu gwyl flynyddol ar Rivington Pike, moel gerllaw Bolton, wrth odreu yr hon y mae cronfeydd dwfr tref Lerpwl. Cyrhaeddasai mintai Manchester yno yn