Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymedrol arall fyddai tybied fod o chwech i saith o bersonau ar gyfartaledd wedi darllen pob un o'r copiau hyny, a bod felly o gant a haner o filoedd i ddau can' mil wedi eu dyddori ganddo. Ond pwy all ddyfalu neu ddyfeisio pa sawl chwerthiniad iachus a fu uwchben "Ymddyddanion y Felin," "Boneddwr mawr o'r Bala," "Evan Benwan, "Syr Meurig Grynswth," "Caru'r Lleuad," &c.; neu pa sawl deigryn melus a syrthiodd yn ddistaw ar y llyfr wrth ddarllen "Claddasom di, Elen," "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon," "Y fenyw fach a'r Beibl Mawr," "Dafydd y Gareg Wen," &c.; neu yn mhellach, pwy all fesur y nerth adnewyddol a gafodd ysbryd llesg llawer Cymro oddiwrth ysbryd gwrol y caneuon ar "Ddyngarwch," "Gwladgarwch,' "Charles o'r Bala," "Meddyliau am y Nefoedd," &c. Pe na buasem yn son am lyfr y mae cynifer o Gymry wedi ei ddarllen ac mor gydnabyddus âg ef, prin y gallasem siarad mor gryf am ei ragoroldeb heb ddyfynu yn helaethach ohono; yn enwedig gohebiaethau "Syr Meirig Grynswth," yn eu crynswth. Ond rhag ofn y daw y llyfryn hwn i law rhywun na ddarllenodd lyfr cyntaf Ceiriog, ni a godwn ychydig linellau ohono, gan anog ar yr un pryd y "rhywun na ddarllenodd" i ddanfon at Mri. Hughes, Gwrecsam, am y gwaith i gyd. Yma daw y barwnig doniol ger ein bron yn y cymeriad o arwerthwr, a'i sale gyntaf oedd ar eiddo bardd yr hwn a roddai'r fasnach i fynu oherwydd y gostyngiad dirfawr oedd yn mhrisiau awdlau, englynion, &c. Dyma rai o'r taclau a gynygid ar werth:-

I. Myrddiwn a haner o linellau Cynghaneddol, yn anfarwol i gyd, ac yn barod ar unrhyw foment ddifyfyr i'w dethol allan i wneud yr awdl odidocaf yn ein hiaith, ar unrhyw bwnc neu destun a ddymuno y prydydd ei ddefnyddio.

2. Deunaw mil o englynion ar haner eu gwneud—oll ond un yn cael eu gwarantu gan y gwerthwr i fod yn anfarwol.

3. Cywydd bychan a wnaeth yr awdwr pan yn ieuanc, o'r un hyd ag ysgol Jacob. Bwriedir gwerthu hwn wrth y llath, neu fel y bo prynwyr yn dewis.