Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

6. Un cant ar bymtheg o fedalau a llawryfon, oll yn arian pur, wedi eu gwneud o blwm.

7. (Yn yr ystorfa o dan y siop). Pymtheg cant o farilau yn cynwys pyg cynghanedd. Y mae hwn o'r fath oreu; ni wyddis am un linell erioed a ddatododd ar ol ei gludio â'r pŷg rhagorol hwn.

8. Pedair hogsied ar ddeg o ddyfroedd Marah, i wneud galarnadau ar ol enwogion Cymru, am wobrwyon a thlysau; ac i bobl ddinod, na chlywsom ac na welsom eu henw cyn ei gysylltu â swm gwobr eu marwnad.

9. Tri ugain ffurcyn o sebon meddal i lithrigio brawddegau, ac i rwbio beirniaid a phwyllgorau eisteddfodol.

Cododd Oriau'r Hwyr yr awdwr i res flaenaf awenyddion ei wlad. Adolygwyd y llyfr gan y Wasg Gymreig, a'r cyhoeddiadau Cymreig-Seisnig gyda chanmoliaeth ddigymysg. Dywedai y gochelgar Ieuan Gwyllt:—

Ni ddygwyddodd i mi ddarllen llinellau Cymraeg yn cynwys mwy o wir farddoniaeth na y rhai hyn er's amser maith. Yn wir y mae yn gwestiwn genym a oes llawer o'r cyfryw yn ein hiaith. Y neb sydd am gael ateb i'r hen ofyniad—Beth yw Barddoniaeth? —darllened a theimled y llinellau hyn ar Ddyngarwch.'

Ac yn y Carnarvon and Denbigh Herald, tystiolaethai un a wyddai gymaint am y math yma o farddoniaeth ag un o'i gydoeswyr, ac un a ddeallai y grefft ei hun i berffeithrwydd, sef Talhaiarn:—

CEIRIOG has made rapid strides in popularity, and deservedly so, for he is unquestionably a genuine poet. His book contains many sweet flowers and pretty gems, although there may be here and there a simplicity bordering on childishness: this is far better than puffy, inflated obscurity, swelling into bombast. Most Welsh poets become religious instead of loving, in their love. Whereas Ceiriog is delicately and intensely loving, without cant or hypocrisy. I doubt if there is anything in the Welsh language on the subject of love that are equal to the verses quoted. "Myfanwy" though irregular and unequal has a glorious burst towards the middle, that takes the shine out of the poem "Owain Wyn," and most other Welsh poems.

Yn 1860, cynygiodd Cymrodorion Merthyr Tydfil saith o wobrau am saith o Ganeuon Dirwestol ar wahanol destynau yn dwyn cysylltiad â'u hoff bwnc hwy, gan benodi Ieuan Gwyllt yn feirniad. Buasai llawer prydydd yn teimlo yn bur gwmfforddus am chwe' mis ped enillasai un o'r saith gwobr hyny;