Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pan ddaeth yn hir brynhawn teimlai Lewsyn chwant bwyd. Yr oedd wedi bwyta y bara a chaws, oedd yn ei gwd, yn gynnar yn y bore, ac nid oedd dim yn weddill. Rhaid oedd cael rhywbeth yn ychwaneg, ac eto, at ba ddrws y gallai anturio i ofyn am ymborth? Dyfalodd lawer am gynllun i lanw ei gôd eilwaith, ond pan aeth yr haul i lawr yr oedd eto o dan gysgod y maen mawr a'i gylla 'n wâg.

Ond pan aeth y wlad yn fud eto, heb ddim ond aderyn y gwair yn aflonyddu ar y distawrwydd, mentrodd y ffoadur i fyned i lawr drwy gaeau gwair y Garwdyle a'r Glynperfedd tuag at bentref y Lamb, ac yno y gosododd i weithrediad y penderfyniad y daeth iddo.

Llwyddodd i agor un o ffenestri efail gôf y pentref, ac wedi ei chau yn ofalus, gorweddodd yn ei hyd ar y pentan, a rhwng ei deimlad blinedig a gwres y mânlo syrthiodd trwmgwsg arno.

Bore trannoeth cafodd yr hen Feredydd y gôf fraw mwyaf ei oes o weled gwaed yn diferu dros ochr y pentan a gŵr yn gorwedd yn y lle tân fel pe yn gelain. Wedi gweled mai byw oedd efe, ac yn neilltuol wedi gweled mai Lewsyn oedd ciliodd ei ofn i raddau. ac wedi clywed yr holl ystori o enau Lewsyn ei hun, er clywed ohono hi gan Shams yn flaenorol, penderfynodd yr hen ôf wneud ei ran fel Samaritan i'r llanc rhyfygus ddaeth yn y modd adfydus hwn i guro wrth ei ddôr. Aeth yn gyntaf dim i'r tŷ am ymborth a diod iddo, ac wedi aros hyd nes y digonwyd y truan, ebe fe wrtho,- "Yr wyt mewn picil clawd Lewis, ond nid y fi sy'n mynd i droi 'nghefan arnat ti, machan i. Dod y bara a chaws yma yn dy boced, cera lan i goed y Coedcaedu, ac aros yno nes bo'i 'n t'wyllu heno. Yna derc i lawr. fe fydd y ffenast ar agor i ti, a' fe fydd bwyd i ti wrth gefan y pedola' yna. Ond cofia 'dwy' i na neb arall