Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i gael dy weld o gwbl, oblegid 'roedd dau gwnstabl yn y Lamb ddô. Ti gei fwyd bob nos, 'run man, c'yd y mynni di, ond os gwela' i fod y bwyd heb ei fyta, fe fydda' i 'n diall dy fod ti wedi mynd off. 'Nawr, machan i, lan a ti i Gocdcaedu cyn bo neb arall yn dy weld ti. Mae dynion bishi idd 'u cael, coffa!"

Felly y bu. Cysgodd Lewsyn ddwy noswaith yn yr efail ar y pentan, a llechai ym mhrysgwŷdd y Coedcaedu liw dydd. Ond rhag ofn i Feredydd ddyfod i drybini o'i herwydd ef penderfynodd ymadael y drydedd noswaith. Ond i ble? I ble, yn wir, ond i Ystradfellte? Onid oedd y Porth Mawr yno, ac onid allai un gŵr penderfynol ddal ei dir yn y lle hwnnw yn erbyn cant? A phed aethai y "gwaetha'n waetha," onid allai efe—Lewsyn—daflu ei hun i'r gwacter diwaelod yn y tywyllwch tanddaearol yn hytrach na chael ei gymryd yn fyw, i sefyll ei brawf o flaen llwfriaid?

Felly, y Porth Mawr am dani! ac ar y ffordd tuag yno llanwodd ei logellau ag eirin Mair o ardd yr Heol Las er mwyn gwneud i fara a chaws Meredydd " i fynd ymhellach."

Wedi cyrraedd yr ogof chwiliodd am gilfach dywyll, rhyw hanner canllath o'r genau, a gosododd ei gorff blinderus i orffwys ar y graean mân. Ni allai lai na chyferbynnu oeredd y gwely hwn a chynhesrwydd pentan Meredydd, ond ni ellid mo'r help-diogelwch oedd y prif beth ar hynny o bryd, a rhaid oedd anwybyddu pob anghysur i gyrraedd hwnnw.

Hir iawn oedd drannoeth yn nhywyllwch yr ogof, a bwyd lled aflesol oedd eirin Mair i nerthu dyn egwan. Rhywbryd yn y prynhawn syrthiodd Lewsyn i gysgu, ac ni wyddai pa hyd o amser y bu ynghwsg pan y deffrowyd ef gan ryw hunllef. Breuddwydiai ei fod yng ngafael cerrynt mawr o ddwfr oedd yn