Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

teithio yn gyflymach, gyflymach bob eiliad. Ceisiai ddal ei afael dro ar ol tro yn y torlannau wrth fyned heibio, ond pan y byddai efe ar fedr ennill y lan gwthid ef yn ol gan law anferth i'r llifeiriant drachefn. Ac wele ef yn awr ar fin dibyn erch, ac yn!--yn!---cwympo drosto! Neidiodd Lewsyn ar ei draed yn ei hunllef, ac ni wyddai'n iawn pa un ai ynghwsg neu ar ddihun yr ydoedd am beth amser ymhellach, canys cafodd ei hun yn wirioneddol mewn dwfr rhedegog a lifai heibio iddo yn ddiatal.

Cynhyrfodd ar hyn, yn eithaf effro bellach, a chynhyrfodd fwy o glywed sŵn llawer o ddyfroedd yn diasbedain drwy y gwagle. Rhedodd dros y meini geirwon at enau yr ogof, ac yno gwelai lifeiriant aruthrol yng ngwely yr afon.

Gorfu iddo gerdded cyn ddyfned a'i ganol drwy y dilyw i ennill diogelwch, a theimlai wedi cyrraedd tir diberigl iddo gael dihangfa ryfeddol rhag boddi yn ei wely graean.

Yr oedd afon Mellte yn un llif mawr yn rhuthro i'r Porth, fel ag y gwnaeth filwaith cyn hynny, ac a wna eto hyd ddiwedd y byd, ac onibae am ei ddihuno mewn pryd nid oedd dim a'i hachubasai rhag angau disyfyd.

Teimlai yn ddigalon iawn ar hyn oblegid yr oedd wedi credu y buasai yn berffaith ddiogel yn yr ogof hon, ond wele, yn awr ymddangosai fel pe bae Duw a dyn yn cydweithio i'w erbyn, ac yr oedd y siom yn un dost. Amhosibl iddo fyddai llechu mwy yn y tywyllwch yn wyneb y perigl amlwg a ddilynai o geisio gwneud hynny, ac felly dringodd i'r allt uwchben, heb hidio i ble yr elai.