Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan y Parch. D. Jones, Caerdydd. Ymddengys mai y Parch. W. Owen ei hunan oedd yn ei gyhoeddi ac yn ei argraphu o Mehefin, 1849, hyd ddiwedd y flwyddyn 1854, oherwydd ni cheir enw Mr. R. Roberts yn nglyn â'i enw of ar ol Mai, 1849. Bu yr olygiaeth yn llaw y Parch. D. Jones o ddechreu y flwyddyn 1853 hyd ei farwolaeth, Tachwedd 8fed, 1854. Bu yr olygiaeth, ar ol hyny, dan ofal Mr. Samuel Evans, hen olygydd Seren Gomer, hyd nes y bu yntau farw, Awet 30ain, 1856, ac oddiar hyny, hyd derfyniad y gyfres gyntaf o'r Y Bedyddiwr, yn niwedd y flwyddyn 1859, bu dan olygiaeth y Parch. N. Thomas, Caerdydd. Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r gyfres newydd, yn Ionawr, 1861, dan ofal y golygwyr canlynol:—"Duwinyddol a Gwladgarol," Parch. N. Thomas, Caerdydd; "Cofiannol a Henafiaethol," Parch. J. Emlyn Jones; "Celfyddyddol a Barddonol," Mr. Aneurin Jones; "Hanesion Cyfarfodydd a Digwyddiadau," Parch. J. G. Phillips, Llantrisant; "Holiadau, Atebion," &c., Parch. C. Griffiths, Merthyr. Yr argraphydd am y flwyddyn 1861 oedd Mr. Henry Evans, Newport; daeth allan y rhifyn am Mai, 1862, o swyddfa Mr. Aneurin Jones, ac oherwydd cyfnewidiadau yn y swyddfa, ni ddaeth yr un rhifyn allan am y fiwyddyn hono ar ol mis Awst. Daeth allan drachefu yn rheolaidd o swyddfa Mr. Aneurin Jones, Gelligroes, hyd Ebrill, 1864. Argraphwyd y rhifynau am Mai a Mehefin, 1864, gan Mr. D. J. Thomas, Aberdar, ac oddiar Gorphenaf, 1864, hyd ei ddiwedd yn Medi, 1868 cyhoeddid ac argrephid of gan y Parch. W. Roberts, Blaenau, a dyna y rhifyn olaf ohono a ddaeth allan. Diweddodd yn sydyn a hollol ddirybydd. Parhaodd, fel y gwelir, er cyfarfod llawer siomedigaeth, a myned trwy amryw gyfnewidiadau, i redeg am oddeutu pum'-mlynedd-ar hugain. Er nad oedd unrhyw gysylltiad swyddogol