Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyngddo âg enwad y Bedyddwyr, eto, i bob pwrpas ymarferol, ganddynt hwy y cefnogwyd ef drwy y blynyddoedd hyn.

Blaguryn y Diwygiad, 1842, Gedeon, 1855.—Cychwynwyd Blaguryn y Diwygiad yn y flwyddyn 1842, a chyhoeddid a golygid of gan y Parch. W. Jones, gweinidog yr Eglwys Rydd Unedig, Aberystwyth. Ymddengys fod y cyhoeddiad hwn dan nawdd a chefnogaeth rhai oedd wedi gadael enwad y Wesleyaid, ac edrychai y cyfundeb Wesleyaidd arno gyda chasineb. Prin y parhaodd am flwyddyn. Cychwynwyd, gan yr un hyrwyddwyr, ac i'r un amcanion, gyhoeddiad misol arall dan yr enw Gedeon, a gellir edrych arno fel ail-gychwyniad i Blaguryn y Diwygiad. Oes fer a gafodd.

Y Drysorfa Gynnulleidfaol, 1843.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1843, dan olygiad y Parch. William Jones, ac argrephid ef, ar ei gychwyniad, gan Mr. Evan Griffiths, Abertawe. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Symudwyd ef, yn y flwyddyn 1847, i gael ei argraphu gan Mr. Josiah Thomas Jones, Caerfyrddin, a thra yno, yr ydoedd dan olygiaeth y Parch. Hugh Jones. Ei arwyddair, yn ol y wyneb ddalen, ydoedd: "Llawer a gynniweiriant, a gwybodaeth a amlheir." Ceir, yn y flwyddyn 1848, fod y golygydd yn addaw amryw erthyglau oddiwrth y Parch. W. Williams (Caledfryn). Ni pharhaodd yn hir.

Y Beirniadur Cymreig, 1845.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn yn Ionawr, 1845, a chychwynwyd ef gan y Parch. John Mills, yr hwn, ar y pryd, yn byw yn Rhuthyn, ac efe hefyd oedd yn ei olygu. Argrephid ef gan Mr. Ishmael Jones, Llanelwy. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd pedair-ceiniog-a-dimai. Yatyrid ef yn gyhoeddiad hollol annibynol ar bob plaid grefyddol. Cynnwysai ysgrifau ar Llenyddiaeth Ys-