Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pennodol am y flwyddyn 1859. Yn ystod y blynyddoedd 1860—1, ac am ran o'r flwyddyn ddilynol, golygid ef gan y Parch. H. Jones, D.D., Llangollen. Ar glawr y rhifyn am Ebrill, 1862, ceir yr olygiaeth wedi ei rhanu fel y canlyn:—"Duwinyddiaeth, Traethodau, a Marwgoffa," y Parch. A. J. Parry, Cefnmawr; "Detholion ac Eglurhadaeth Ysgrythyrol," y Parch. H. Jones, D.D., Llangollen; "Hanesion Gwladol s Chenadol," y Parch. W. Roberts, Rhos; "Hanesion Cyfarfodydd a Bedyddiadau," Mr. W. Williams, Llangollen. Bu rhai cyfnewidiadau ar y trefniant hwn yn fuan, ac yn Awst, 1871, darfu i'r Parch. A. J. Parry ymddiswyddo, a chymerwyd ei le yn Hydref, yr un flwyddyn, gan y Parch. Owen Davies, Caernarfon (Llangollen gynt). Golygwyd barddoniaeth Y Greal, o'r dechreu hyd Medi, 1875, gan y Parch. R. Ellis (Cynddelw), pryd y bu ef farw, ar ol gwasanaethu ei Dduw, ei enwad, ei genedl, a'i wlad, yn ffyddlawn a diwyd, a phrofodd ei hunan, trwy ei fywyd, yn un o'r gweithwyr caletaf a gododd Cymru erioed. Cymerwyd ei le, fel golygydd y farddoniaeth, yn Ionawr, 1876, gan y Parch. H. Cernyw Williams, Corwen. Y golygwyr presennol (1892) ydynt y Parchn. O. Davies, Caernarfon; J. A. Morris, Aberystwyth; a H. Cernyw Williams, Corwen. Dylid dyweyd, fel eglurhad, er fod Y Greal yn dal perthynas neillduol â'r Bedyddwyr, eto nad oes unrhyw gysylltiad swyddogol rhyngddynt.

Yr Anybynwr, 1856.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn allan yn Mai, 1856, dan olygiaeth y Parch. E. Williams, Dinas Mawddwy, ac argrephid ef gan Mr. R. Jones, Bethesda. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Ei arwyddair, ar y wyneb-ddalen, ydoedd: "Pob da oddiwrth y Creawdwr, a phob drwg oddiwrth y creadur." Gwasanaethu yr Annibynwyr yr ydoedd yn benaf, ac elai yr elw oddiwrtho tuagat "gynnal hen