Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ceiniog, a deuai allan yn fisol. At wasanaeth yr Annibynwyr, yn benaf, y cychwynwyd Yr Ardd, ac yn eu plith hwy y derbynid ef. Rhoddwyd ef i fyny ar ol oddeutu dwy flynedd.

Yr Arweinydd, 1869.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn allan yn Awst, 1869, dan olygiaeth y Parchn. J. Jones (Mathetes), W. Harris, Heolyfelin, a J. Jones, Abercwmboy, a gwelwn, erbyn yr ail rifyn a ddaeth allan (yr un am Medi), fod Mr. J. Edwards (Meiriadog), wedi ei ychwanegu atynt. Argrephid of gan Mr. Jenkin Howell, cyhoeddwr, Aberdar. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Dywedir yn "Anerchiad y Golygyddion" yn y rhifyn cyntaf "Ceir lluaws o gyhoeddiadau misol yn awr yn y Dywysogaeth, yn cael eu cynnal gan y gwahanol enwadau crefyddol; ond ymddengys i ni nad yw 'y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu' yn cael ei egluro a'i amddiffyn ynddynt, neu yn y mwyafrif ohonynt, fel y dylid, ac y gellid cychwyn a chynnal cylchgrawn mwy cydweddol â natur comisiwn ein Harglwydd, a dysgeidiaeth ei Apostolion; ac yr ydym yn bwriadu gwneyd ymgais i gyfarfod yr angen y mae lluaws o'r Cymry yn ei deimlo. . . . Nid cyhoeddiad sectol yw Yr Arweinydd i fod, eithr cylchgrawn rhydd, yn yr hwn y gellir ymresymu yn bwyllog dros ac yn erbyn syniadau ac arferion a ystyrir yn gysegredig gan y gwahanol enwadau, ac nid maes i arfer cecraeth bechadurus ac i wneyd ensyniadau angharedig a niweidiol. . . . . Nid ydym yn crefu am gymhorth, ond yn hytrach yn gwynebu ar y farchnad, gan ymddibynu—nid ar gymeradwyaeth Cwrdd Chwarter na Chymanfa,' trugaredd na ffafr-ond yn hollol ar gymeriad y nwyddau y bwriedir eu dangos." Ei arwyddair, ar y wyneb-ddalen, ydoedd: "Rhyddid—Y Gwir," ac ar y dywedid, ar ei