Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyhoeddiad Eglwysig hollol ydoedd hwn, ac er fod ynddo erthyglau ac ysgrifau galluog, eto teg yw dyweyd yr edrychid ar yr holl gwestiynau a fyddent dan sylw oddiar safle amddiffyniad i'r Eglwys Sefydledig. Megis ei enw, felly yntau; ac ystyrid ef yn ddadleuydd cadarn dros barhad a gwerth yr Eglwys yn Nghymru. Am oddeutu chwe' blynedd y parhaodd i ddyfod allan.

Yr Ymwelydd, 1877.—Cyhoeddiad misol ydyw hwn a gychwynwyd yn y flwyddyn 1877, perthynol i'r Bedyddwyr Albanaidd Cymreig, dan olygiaeth y Parchn. Samuel Pearce, Penrhyndeudraeth; W. Humphreys, Tanygrisiau; a Morris Rowland, Harlech, ac argrephir ef gan Mr. D. Lloyd, Porthmadog. Ei bris yw ceiniog. Mae yn parhau i ddyfod allan yn fisol.

Yr Ymwelydd Misol, 1877.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1877, a chyhoeddid of gan Gyfarfod Misol perthynol i Fedyddwyr Ystrad-y-Fodwg, ac argrephid ef gan Mr D. Lloyd, Treorci. Gwneid i fyny ei gynnwys o'r pregethau, papyrau, a phenderfyniadau a fyddent wedi cael eu traddodi, eu darllen, a'u pasio yn y cylch yn ystod y mis, a gwelir felly mai lleol, yn benaf, oedd ei nodwedd. Rhoddwyd ef i fyny cyn hir.

Yr Arweinydd Annibynol, 1878.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1878, a chyhoeddid ef er fudd eglwysi yr Annibynwyr yn Dyffryn Rhondda. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Lleol oedd ei nodwedd. Rhoddwyd ef i fyny yn y flwyddyn 1881.

Llusern y Llan, 1880.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1880, dan olygiaeth y Cynog Davies, E.D., Aberteifi; W. Howell (Hywel Idloes), Capel Isaf; W. Glanffrwd Thomas, Llanelwy; ac Ap Gruffydd. Argrephid ef gan y Meistri Farrant a Frost, Merthyr Tydfil. Cyhoeddiad yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig ydoedd. Deuai