Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Ei arwyddair, yn ol y wyneb-ddalen, ydoedd: "Ein Hiaith, ein Gwlad, a'n Heglwys." Ceid llawer o draethodau da ynddo, ac amrywiaeth difyrus a buddiol. Parhaodd i ddyfod allan am oddeutu tair blynedd.

Y Bugeilydd, 1881.—Daeth hwn allan yn y flwyddyn 1881, a golygid ef gan y Parch. D. Edwards, M.A., Llanelwy, ac argrephid ef gan Mr. W. Morris, Rhyl. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Yr oedd y cyhoeddiad hwn dan nawdd deiliaid yr Eglwys Sefydledig, ond rhoddwyd ef i fyny yn Mai, 1882.

Cenad Hedd, 1881.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, yn y flwyddyn 1881, gan y Parch. W. Nicholson, Lerpwl, ac efe oedd yn ei olygu, ac argrephir of gan Mr. Joseph Williams, Merthyr Tydfil. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Darfu i'r Parch. W. Nicholson barhau i'w olygu tra y bu byw, ac ar ol ei farwolaeth ef, bu yr olygiaeth, am yspaid, yn llaw y Parch. T. Nicholson, Southampton (Dinbych gynt). Wedi marwolaeth ei gychwynydd, trefnwyd iddo ddyfod yn eiddo i'r cyhoeddwr, ac, ar hyn o bryd (1892), y mae dan olygiaeth y Parch. J. Bowen-Jones, B.A., Aberhonddu. Er nad oes unrhyw gysylltiad swyddogol rhyngddo â'r Annibynwyr, eto y mae yn ddealledig mai er eu gwasanaethu hwy, yn benaf, y cychwynwyd ef, ac yn eu plith hwy y derbynir ef fwyaf.

Cenhadydd Cwmtawe, 1881. —Cychwynwyd y cyhoeddiad misol hwn yn y flwyddyn 1881, er budd eglwysi y Bedyddwyr yn Cwmtawe, a golygid ef gan y Parch. H. J. Parry, Abertawe. Lleol ydoedd ei nodwedd. Ni pharhaodd i ddyfod allan ond am oddeutu chwe' mis.