Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Wyntyll, 1890.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1890, gan y Meistri F. Rees Jones, 23, Beaconsfield-street, Lerpwl, ac Elwy D. Symond, 50, Jermyn-street, Lerpwl, a hwynt-hwy hefyd oeddynt yn ei olygu, ac argrephid of gan y Meistri Foulkes ac Evans, 29, Dale-street, Lerpwl. Deuai allan yn ddau-fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Amcan ei gychwyniad, yn benaf, ydoedd gwasanaethu eglwys a chynnulleidfa y Methodistiaid Calfinaidd, Princes-road, Lerpwl." Yn gyffredin ceid, yn mhob rhifyn, erthyglau ar faterion oedd yn nglyn a'r eglwysi a berthynent i'r Cyfundeb yn Lerpwl, megis "Yr Ysgolion Sabbothol," "Yr Ystadegau Eglwysig," &c., a cheid ambell i erthygl Seisonig ar faterion tebyg i "Our Pulpits," "The Standard System II.," &c., ac, yn arbenig, yr oedd i fod yn wasanaethgar i'r eglwys neillduol a honai fod yn dal cysylltiad a hi. Ond nis gellir dyweyd fod y cais hwn wedi bod yn llwyddiannus, oherwydd prin y parhaodd i ddyfod allan am flwyddyn.

Yr Hysbysydd, 1821.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Medi, 1891, dan olygiaeth y Parch. Edward Humphreys, Croesoswallt, ac argrephir ef gan y Meistri Woodall, Minshull, a Thomas, Gwrecsam. Daw allan yn chwarterol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Ei amcan ydyw gwasanaethu eglwysi ac Ysgolion Sabbothol y Wesleyaid yn Nghylchdaith Llanrhaiadr-yn-Mochnant, a bwriedir iddo gael ei olygu gan y gweinidogion a ddigwyddent fod ar y gylchdaith. Gwelir, gyda llaw, fod amryw o'r cylchdeithiau Wesleyaidd yn Ngogledd Cymru yn cyhoeddi cylchgronau chwarterol at eu gwasanaeth arbenig hwy eu hunain.

Yr Arweinydd, 1892.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn yn Mawrth, 1892, yn cael ei gyhoeddi a'i olygu gan y Parch. P. Jones Roberts, Penmachno,