Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bysu neb ei fod am gilio. Dechreuodd yn rhyfedd, a diweddodd felly. Byddai y frawdoliaeth Gymreig yn arfer siarad am y cylchgrawn hwn fel math o Melchisedec llenyddol, heb ddechreu na diwedd dyddiau.

Y Traethodydd, 1845.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1845, dan olygiaeth y Parchn. L. Edwards, D.D., Bals, a Roger Edwards, Wyddgrug, ac argrephid ef gan Mr. T. Gee, Dinbych. Gwyddom mai syniad cyffredin y wlad ydyw mai y diweddar Dr. Lewis Edwards, D.D., Bala, a gychwynodd gyntaf y cylchgrawn hwn; ond dywedwyd wrthym yn bendant gan Mr. T. Gee, y cyhoeddwr, mai efe ei hunan a awgrymodd y peth gyntaf oll i sylw Dr. Edwards—mai efe (Mr. Gee), mewn gwirionedd, a feddyliodd gyntaf am gylchgrawn o'r fath, ac, o ran dim sicrwydd sydd genym yn amgen, gall hyny fod yn ddigon naturiol; ac yna, ar ol i Mr. Gee awgrymu y peth i sylw Dr. Edwards, a gofyn iddo ei gydsyniad, fod y ddau wedi cyddeimlo yr anghen, ac wedi penderfynu cyd—wneyd eu goreu i gario allan y syniad. Pa fodd bynag am hyny, ceir hanes fod Dr. Edwards yn ymgynghori â chyfeillion yn nghylch "dwyn allan gyhoeddiad tri—misol Cymraeg, o nodwedd uwch na dim oedd genym yn ein hiaith cyn hyny, at wasanaeth llenyddiaeth a chrefydd— cyhoeddiad yn ymgais at ymgystadlu â'r rhai uwchaf yn mhlith y Saeson." Darfu iddo ymgynghori, fel un o'r rhai cyntaf, a'r Parch. Henry Rees, Lerpwl, ac wele ei syniad ef am y pwnc:—"Byddai yn dda iawn genyf pe llwyddech i sefydlu cyhoeddiad o radd uwch, a mwy ei werth, na chyhoeddiadau cyffredin presennol Cymru; a meddyliwn fod digon o le iddo redeg, heb redeg yn erbyn Y Drysorfa, yn enwedig, os bydd yn dyfod allan yn chwarterol; er, fe ddichon, y gallai ei ymddangosiad beri peth anesmwythder ac eiddigedd yn y dechreuad."