Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

-dimai ydyw ei bris yn awr, a chynnwysa gerddoriaeth yn y ddau nodiant. Ysgrifena y golygydd (Alaw Ddu) erthyglau i bob rhifyn ar "Ysgol y Cyfansoddwr," yn cynnwys gwersi ar elfenau cyfansoddiant—mewn melodedd (melody), cynghanedd (harmony), a ffurf (form), &c., ac hefyd ysgrifena Pedr Alaw gyfres ar "Offeryniaeth a Hanesiaeth Gerddorol," a cheir Congl yr "Holi ar Ateb" dan ofal Mr. C. Meudwy Davies Llanelli.

Y Cerddor, 1889.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1889, a dywedir ei fod yn gyflwynedig i gerddorion Cymru, dan olygiaeth Mr. D. Jenkins, Aberystwyth, a D. Emlyn Evans, Hereford. Cyhoeddir ef yn y ddau nodiant, a daw allan yn fisol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Ceir fod y cyhoeddiad hwn yn ymwneyd â gwahanol agweddau cerddoriaeth, a hyny yn ol y dull diweddaraf. Canmolir Y Cerddor yn fawr, a cheir ynddo erthyglau galluog, dysgedig, a newydd, a hyderwn y parha i fyned yn mlaen ar yr un llinellau ag y cychwynodd.

Y Solffaydd, 1891.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan ar Ionawr 15fed, 1891, a chyhoeddir ac argrephir ef gan Mr. Daniel Owen, Pontardulais. Gyda golwg ar ei olygiaeth ni enwir neb ar y wyneb-ddalen, ond yn unig dywedir ei fod dan ofal golygwyr. Cyhoeddiad misol ydyw hwn at wasanaeth Solffawyr Cymru, a'i bris ydyw ceiniog. Yn yr anerchiad dechreuol dywed y golygwyr Ein prif reswm dros anturio o'ch blaen gyda chyhoeddiad newydd ydyw nad oes yr un papyr yn Nghymru, ar hyn o bryd, yn gyfangwbl at eich gwasanaeth. Mae genym gyhoeddiadau da, mae yn wir, ond nid ydynt yn bodoli yn hollol i hyrwyddo y Sol-ffa, ac astudiaeth ohoni, yn y wlad. Felly, yn ngwyneb y ffaith fod disgyblion y gyfundrefn yn Nghymru yn rhifo eu miloedd, a'r nifer hwn ar gynnydd yn barhaus, gwahoddwyd ni