Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i gychwyn misolya a fyddai yn hollol â'i fryd i ledaenu gwybodaeth, ac i ddarparu ar gyfer eich anghenion chwi."

5.—Y CYLCHGRAWN CENHADOL.

Y Cronicl Cenhadol, 1817.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1817, dan olygiaeth y Parch. D. Davies, Panteg, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. John Evans, Caerfyrddin. Cyhoeddiad bychan ydoedd, a deuai allan yn fisol. Rhoddai hanes y gwahanol genhadaethau, a thueddai i feithrin yspryd cenhadol. Parhaodd i ddyfod allan am rai blynyddoedd.

Yr Hanesydd Cenhadol, 1830.—Cyhoeddiad bychan misol ydoedd hwn, a chyhoeddid ac argrephid ef yn Llundain, dan nawdd Cymdeithas Genhadol Llundain. Parhaodd am oddeutu tair blynedd.

Y Brud Cenhadol, 1836.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn y flwyddyn 1836, a chyhoeddid ef dan nawdd Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr, ac argrephid ef gan Mr. Isaac Thomas, Aberteifi. Cyhoeddiad bychan a rhad ydoedd, a chynnwysai ddarluniau eglurhaol, a deuai allan yn fisol. Rhoddwyd ef i fyny yn fuan.

Y Cenhadydd, 1878.—Daeth hwn allan yn y flwyddyn 1878, a chychwynwyd ac arolygid ef gan Mr. Llewelyn Jenkins, Caerdydd. Deuai allan yn chwarterol, a bwriedid iddo fod yn gyhoeddiad at wasanaeth y Genhadaeth, yn mhlith y Bedyddwyr, ond ni ddaeth allan ohono fwy nag ychydig rifynau.

Yr Herald Cenhadol, 1881.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1881, gan Mr. D. Davies, Treorci, a chyhoeddid ef, yn neillduol, at wasanaeth y Bedyddwyr yn Dyffryn Rhondda. Daw cyhoeddiad o'r enw hwn allan yn awr hefyd, yn mhlith y Bedyddwyr, dan olygiaeth y Parchn. G. Ll. Evans, Barry Dock; W. Morris, F.R.G.S., Treorci; a B. Evans, Gadlys,