Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cylchgrawn hwn ddyfod yn allu er daioni yn ein gwlad . Symudwyd ef yn Ionawr, 1891, i gael ei argraphu i swyddfa Mr. W. Lloyd Roberts, Blaenau Ffestiniog.

7.—CYLCHGRAWN I'R YSGOL SABBOTHOL.

Yr Athraw, 1829.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1829, gan y Parch. W. Rowlands, D.D. , Utica, America (gynt yn Pontypool, Deheudir Cymru). Cymerodd hyn le cyn i Dr. Rowlands fyned i'r America, pan oedd yn byw yn Pontypool, a darfu iddo, Mawrth 20fed, 1829, brynu swyddfa a holl gelfi argraphu Mr. Richard Jones, Pontypool, a dyna yr adeg, wedi iddo ef gymeryd y swyddfa, y cychwynwyd Yr Athraw hwn . Cyhoeddiad misol bychan ydoedd, yn cael ei sefydlu, yn benaf, at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Cynnwysai hanes gweithrediadau yr Ysgolion Sabbothol, argymhellion i lafur Beiblaidd, a hyfforddiadau i ddeiliaid y sefydliad daionus hwn. Ymddengys ei fod yn gyhoeddiad da, ac yn cael derbyniad croesawgar a chylchrediad lled eang, a gwelir ambell i rifyn ohono eto mewn rhai teuluoedd yn Nghymru. Dywedir nad oedd Dr. Rowlands, y pryd hyny, ond oddeutu 22ain mlwydd oed, ac efe oedd yn golygu ac yn argraphu y cyhoeddiad hwn ei hunan, a pharhaodd i'w ddwyn allan am oddeutu tair blynedd, pryd y rhoddwyd ef i fyny.

Yr Esboniwr 1844.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn allan yn Ionawr, 1844, a chyhoeddid ef gan y Meistri J. Phillips, St. Anne Street, Caerlleon, ac A. R. Hughes, Gwrecsam, ac argrephid of gan Mr. Thomas Thomas, Caerlleon. Ei olygydd ydoedd y Parch. L. Edwards, D.D., Bala. Ei bris ydoedd ceiniog—a—dimai, ac yr oedd yn gyhoeddiad misol cwbl anenwadol. Ystyrid ef yn llwyr at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Llenwid ef âg Eglurhadaeth Feiblaidd, ac yr oedd, er yn fychan