Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Dalia rhai mai dyma y cylchgrawn lleiaf, mewn maintioli, a gyhoeddwyd erioed yn yr iaith Gymraeg, oherwydd nid oedd ei arwyneb oll yn mesur mwy na phedair-modfedd-a-haner wrth dair, a chynnwysai ddeuddeg tudalen. Ceid darlun bychan yn mhob rhifyn. Dywedir yn y rhagymadrodd mai "diffyg rhyw gyhoeddiad bychan, addas i'w ddodi yn nwylaw ieuenctyd yr Ysgolion Sabbothol yn Nghymru, yr hwn fyddo yn cysylltu gwybodaeth â difyrwch, sydd wedi cael ei weled a'i gydnabod er's llawer dydd gan amryw." Ceid, yn mhob rhifyn, erthygl fechan, dan y penawd "Lloffion," a chredir mai tad y golygydd oedd yr awdwr. Ni pharhaodd y cyhoeddiad hwn i ddyfod allan ond hyd ddiwedd ei flwyddyn gyntaf, a rhoddwyd ef i fyny, ac ymddengys, er wedi ei gychwyn er mwyn plant, mai lled drymaidd oedd ei gynnwys; ac eto, er hyny, wrth ystyried ei bod mor foreu yn hanes llenyddiaeth gyfnodol i'r plant, ac nad oedd y ganghen hon, ar y pryd hwnw, ond yn ei babandod yn mhob gwlad, efallai y dylid edrych ar yr ymgais hon yn un dda,

Y Drysorfa Fach, 1826.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1826, gan y Parch. Richard Newell, Plas Bach, Meifod, a Mr. Morris Davies, Bangor. Cyhoeddid ef yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Byddai Mr. Davies yn ei olygu, a Mr. Newell yn gofalu am ei gysylltiadau arianol. Parhaodd i ddyfod allan am bedair blynedd, a hyny yn wyneb anhawaderau mawrion, ac, ar y cyfan, yn wyneb ei amcan, ystyrid ef yn gyhoeddiad derbyniol. Efallai, wrth gymeryd pobpeth i'r cyfrif, mai hwn ydoedd y cyhoeddiad hollol uniongyrchol cyntaf erioed i blant Cymru, fel y cyfryw, oherwydd, fel y sylwyd eisioes, er fod Yr Addysgydd