Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi ei fwriadu i'r amcan hwnw, eto prin y gellir edrych arno fel yn gwbl gyfaddas i'r plant, ac am ychydig iawn y parhaodd.

Trysor i Blentyn, 1826.—Daeth hwn allan yn y flwyddyn 1826, dan nawdd y Cyfundeb Wesleyaidd, a pharhaodd i ddyfod allan hyd y flwyddyn 1842. Golygid ac argrephid ef gan yr un personau ag oeddynt yn golygu ac yn argraphu Yr Eurgrawn Wesleyaidd am y blynyddoedd hyny, y rhai a enwyd yn barod genym yn ein cyfeiriad at y cylchgrawn hwnw. Cyhoeddiad bychan ydoedd, a deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Amcan ei gychwyniad, fel y dynoda ei enw, ydoedd bod o wasanaeth crefyddol i blant.

Yr Athraw, 1827.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn mis Ionawr, 1827, dan olygiad y Parchn. J. Edwards, Glynceiriog; R. Williams, Rhuthyn; J. Pritchard, D.D., Llangollen; ac Ellis Evans, Cefnmawr, ond deallwn mai ar Dr. Pritchard y disgynai y gofal mwyaf am flynyddoedd lawer. Argrephid ef, am y pedair-blynedd-ar-bymtheg cyntaf, gan Mr. John Jones, Llanrwst, ac yn Ebrill, 1846, symudwyd ef i gael ei argraphu gan Mr. W. Williams, Llangollen, ac o'r pryd hwnw hyd yn awr, daw allan o'r un swyddfa. Ei bris ydyw ceiniog, a daw allan yn fisol. Yn y flwyddyn 1852, cafwyd gwasanaeth y Parch. E. Roberts, D.D., Pontypridd, fel cyd-olygydd, ac y mae ei gysylltiad ef â'r cyhoeddiad hwnw yn parhau hyd yn bresennol (1892). Yn y flwyddyn 1864, ychwanegwyd y Parch. J. R. Williams, Ystrad Rhondda, i'r olygiaeth, pharhaodd ei gysylltiad hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1877. Yn Ionawr, 1875, darfu i'r Parch. J. Pritchard, D.D., drosglwyddo gofal Yr Athraw yn dair rhan i'r Parchn. E. Roberts, D.D., J. Rufus Williams, ac Owen Davies, Caernarfon.