Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/163

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymneillduodd yr olaf a enwyd ar ol oddeutu dwy flynedd, a throsglwyddwyd y rhan hono i ofal y Parch. Charles Davies, Caerdydd. Ar farwolaeth y Parch. J. Rufus Williams, cymerwyd ei le gan y Parch. Hugh Williams, Nantyglo, ac felly y golygwyr presennol ydynt y Parchn. E. Roberts, D.D., Charles Davies, a H. Williams, Nantyglo. Dylid hysbysu mai Mr. W, Williams, y cyhoeddwr, ydyw ei unig berchenog er y flwyddyn 1875. Gwelir fod y cyhoeddiad hwn wedi gor-oesi lluaws, a gellir dyweyd mai ar ei faes ef y bu y rhan fwyaf o'r dynion blaenaf a berthynent i'r Bedyddwyr yn dechreu gohebu ac ysgrifenu am y waith gyntaf erioed.

Y Tywysydd, 1836, Y Tywysydd a'r Gymraes, 1852.— Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1836, dan olygiaeth y Parch. D. Davies, Pant-teg, ac argrephid ef gan Mr. B. R. Rees, Llanelli. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog, ac yr oedd ei gylchrediad, yn benaf, yn mhlith plant teuluoedd yr Annibynwyr yn y Deheudir. Byddai y Parch. David Rees, Llanelli, yn ysgrifenu llawer iawn iddo, ac, yn fuan ar ol ei gychwyniad, daeth ei olygiaeth i'w law ef, a bu ef yn cyflawni y gwaith hyd y flwyddyn 1865, pryd yr ymgymerwyd a'r olygiaeth gan y Parchn. T. Davies, Llandeilo, a T. Davies, Llanelli, ac yn y flwyddyn 1872, ymgymerwyd â'r olygiaeth gan y Parch. T. Johns, Llanelli, ac efe sydd yn parhau hyd yn bresennol (1892). Yn Ionawr, 1852, unwyd Y Gymraes a'r Y Tywysydd, a daeth y ddau allan fel un cyhoeddiad dan yr enw newydd Y Tywysydd dan olygiaeth, ar y pryd, y Parchn. Evan Jones (Ieuan Gwynedd), a D. Rees, Llanelli.

Y Winllan, 1848, 1865.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan, dan nawdd ac awdurdod y cyfundeb Wesleyaidd, yn y flwyddyn 1848, a chychwynwyd ef er bod yn wasanaethgar