Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i gael ei gyhoeddi a'i argraphu gan Mr. R. I. Jones (Alltud Eifion), Tremadog, a than olygiaeth Ab Ithel. Deuai allan yn fisol, ei bris ydoedd ceiniog, ac yr oedd yn gyhoeddiad cyfaddas iawn i blant ac ieuenctyd. Parhaodd i ddyfod allan felly hyd ddiwedd y flwyddyn 1856, pryd y rhoddwyd ef i fyny. Darfu i Alltud Eifion, modd bynag, ei ail—gychwyn drachefn, yn y flwyddyn 1870, ar ei gyfrifoldeb ei hun, a gweithredai ef ei hunan fel cyhoeddydd a golygydd iddo. Cyhoeddiad bychan o ran maintioli ydoedd hwn, ond cynnwysai un—ar—bymtheg o dudalenau. Parhaodd i gael ei gyhoeddi, y tro hwn, hyd ddiwedd y flwyddyn 1875, pryd y rhoddwyd ef i fyny, gan fod cylchgronau Eglwysig eraill yn cymeryd ei le.

Yr Oenig, 1854. —Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1854, dan olygiaeth y Parchn. D. Phillips Abertawe, a T. Levi, Ystradgynlais (Aberystwyth yn awr), ac argrephid of gan y Meistri Rosser & Williams, Heol Fawr, Abertawe. Deuai allan yn fisol, ei bris ydoedd dwy geiniog, a "phrif amcan ei gychwyniad ydoedd dyrchafu a meithrin chwaeth ieuenctyd Cymru at ddarllen, a rhoddi dysg mewn gwybodaeth gyffredinol." Er fod y ddau olygydd parchus yn dal cysylltiad â chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd, eto nid oedd Yr Oenig yn dal perthynas â'r un enwad na phlaid, ond amcanai wasanaethu plant Cymru yn gyffredinol. Ystyrid ef yn gyhoeddiad rhagorol, a pharhaodd i ddyfod allan hyd ddiwedd y flwyddyn 1856.

Telyn y Plant, 1859.—Daeth y cyhoeddiad hwn allan yn Mai, 1859, at wasanaeth plant y Gobeithluoedd a'r Ysgol Sabbothol, dan olygiaeth y Parchn. T. Levi, Aberystwyth, a John Roberts (Ieuan Gwyllt), Fron, ger Caernarfon, ac argrephid ef gan Mr. Rees Lewis, Merthyr Tydfil. Ei bris ydoedd ceiniog, a deuai allan yn fisol,