Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chanmolir ef fel cyhoeddiad bychan da at ei amcan. Ceid ynddo ysgrifau mewn ffurf ymddiddanol ar athroniaeth amrywiol bethau, a cheid ymdriniaethau ynddynt ar ddwfr, rhew, gwlaw, &c., dan y penawd "Philosophi i'r Plant." Rhoddwyd ef i fyny yn Rhagfyr, 1861, yn ffafr cychwyniad Trysorfa y Plant.

Baner y Plant, 1861, Baner y Teulu, 1862, Baner y Plant, 1889.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1861, gan y Parch. T. Davies, Dolgellau, ac argrephid ef gan Mr. E. Williams, Aberystwyth. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf, newidiwyd ei enw, a galwyd ef yn Baner y Teulu, ond ni ddaeth allan ohono ychwaneg nag ychydig rifynau. Ceir fod cyhoeddiad arall o'r enw Baner y Plant wedi ei gychwyn yn Medi, 1889, gan y Parch. Z. Mather, Abermaw, ac efe hefyd sydd yn ei olygu ac argrephir ef gan y Meistri Edmunds a Mathias, Corwen. Ei bris ydyw ceiniog, a daw allan yn fisol, gan gynnwys dadleuon, ymddiddanion, areithiau byrion, hanesion tarawiadol, a darnau barddonol cyfaddas i'w darllen yn Nghyfarfodydd y Plant. Ceir hefyd bregeth i'r plant yn mhob rhifyn, ac ysgrifenir iddo ar ryfeddodau natur, a cheir tonau a darluniau ynddo. Rhoddir iddo gefnogaeth led dda, ac y mae yn haeddu hyny.

Trysorfa y Plant, 1862.——Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn, dan nawdd ac awdurdod y Methodistiaid Calfinaidd, yn Ionawr, 1862, dan olygiaeth y Parch. T. Levi, Aberystwyth, ac argrephir ef gan y Meistri P. M. Evans a'i Fab, Treffynnon. Daw allan yn ddifwlch bob mis, a'r pris ydyw ceiniog. Mae y cyhoeddiad hwn, o'r cychwyniad hyd yn bresennol, yn parhau dan olygiaeth yr un golygydd, ac yn cael ei argraphu yn yr un swyddfa. Gellir dyweyd fod y cylchgrawn hwn wedi bod yn llwyddiant hollol.