Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

-ar-hugain o dudalenau, a'i bris ydoedd pedair ceiniog. Er mwyn cael syniad am ei gynnwys, nis gellir dim yn well na dodi i lawr eiriau ei wyneb-ddalen:—"Y Geirgrawn, neu Drysorfa Gwybodaeth. Am y flwyddyn 1796. Yn cynnwys Athroniaeth Naturiol a Christionogol, Daearyddiaeth Wybryddiaeth, Henafiaeth, Gwybodaeth Eglwysaidd a Dinasaidd, Athrawiaethau Crefyddol, Bywgraphiadau, Marwolaethau, Newyddion Tramor a Chartrefol, Caniadau, Emynau, ac Awdlau Buddiol. Amcanedig i ledu gwybodaeth, uniondeb, cariad, a heddwch trwy Gymru, gan D. Davies. Gwell gwybodaeth nac aur." Ceir fod Gwallter Mechain, P. Bailey Williams, Dafydd Ddu Eryri, John Jones (Glanygors), &c., yn arfer ysgrifenu iddo, ac ystyrid ef yn gyhoeddiad uwchlaw y cyffredin. Ymddengys fod y cyhoeddiad hwn wedi caniatau i rai ymadroddion ymddangos ynddo, mewn erthyglau neillduol, ag y tybiai y Llywodraeth fod tuedd ynddynt i godi yspryd gwrthryfelgar ac annheyrngarol yn y wlad, a'r canlyniad a fu iddo gael ei attal yn gwbl.

Eurgrawn Môn, neu Y Dysorfa Hanesyddawl, 1826.— Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn ar Ionawr 31ain, 1825, a chychwynwyd ef gan Mr. Robert Roberts, Caergybi, ac efe hefyd ydoedd yn ei olygu ac yn ei argraphu. Gwelwn, yn ol wyneb-ddalen y rhifyn cyntaf ohono, ei fod i gynnwys: "Hanes bywgraphyddol amryw o enwogion Prydain—Ansawdd pethau Cartrefol a Dyeithrol yn ystod y deuddeg mlynedd cyntaf o deyrnasiad ei ddiweddar Fawrhydi George III.—Tremau sylwedyddawl y Misoedd Tal-fyriad o'r Mordeithiau Cylch-ddaearol Cyntaf—Darsylwadau diweddar yn y Moroedd Cyfogledd, Môr Mawr y De, Anial-barthau Affrica, &c., &c." Hefyd, cynnwysai "Sylwiadau yn Nghelfyddydau Rhif a Mesur—Barddoniaeth—Hanesion