Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/179

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"At y Darllenyddion" yn y rhifyn cyntaf a ddaeth allan ohono: "Ceidw y Darian a'r Dymchwelydd olwg ar y pethau canlynol wrth gyflawni ei redfa, a chyfeirio at ei amcan: (1) Ymdrecha gynhyrfu teimladau yn erbyn Pabyddiaeth, sef Pabyddiaeth y peth hwnw a gyfenwir 'Eglwys Wladol.' (2) Gwarthruddiad Sectariaeth yn y Llywodraeth Wladol. (3) Diddymiad Ymneillduaeth, neu yr hyn sydd yn achos ohono, sef Crefydd Sefydledig. (4) Terfyniad Goddefiad, trwy lawn sefydliad Rhyddid, a breintiau cyfartal poh plaid grefyddol," &c. Wele gynnwys y rhifyn cyntaf:—"At y Darllenyddion," "Pretended Holy Orders," "Erledigaeth yn Nghymru, 1838," "Yr Eglwys mewn Perygl," "Eglwys-ddysg a Llywod-ddysg," "Crefydd Wladol," "Y Chineaid a'r Dreth Eglwys," "Pethau pwysig yn cael eu hegluro." "Barddoniaeth-Y Breuddwyd Hwyrol" (Ieuan o Leyn), &c. Ymddengys mai oddeutu yr amseroedd hyny, mewn cwr neillduol o Sir Gaerfyrddin, y gwnaed yr ymysgydwad cyntaf yn erbyn talu y Dreth Eglwys, a dywedir mai hyny, mewn rhan fawr, a fu yn achlysur i gychwyniad y cylchgrawn hwn. Byddai yr ysgrifau ynddo yn rhai cryfion iawn, a dadleuid yn nerthol ynddo yn mhlaid egwyddorion Ymneillduaeth a Rhyddfrydiaeth cynhyrfwyd y wlad, a byddai ei gyfeiriadau, ar adegau, yn cyrhaedd mor bell ac eithafol, nes y penderfynodd y Llywodraeth roddi attalfa buan arno, ac ymddengys mai y rhifyn am Awst, 1839, oedd yr olaf ohono a ddaeth allan.

Y Cronicl, 1843—Gelwid y cylchgrawn hwn, ar lafar gwlad, am flynyddoedd yn Cronicl Bach, a chychwynwyd ef yn Mai, 1843, gan y Parch. Samuel Roberts, Llanbryn- mair (Conwy ar ol hyny), yr hwn a adnabyddid amlaf fel "S. R.," ac efe hefyd oedd yn ei olygu o'r cychwyn hyd ei fynediad i'r America yn y flwyddyn 1857, pryd