Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth Gymreig hen a diweddar, yn cynnwys cofnodion am gastelli, mynyddoedd, rhaiadrau, a hynodion eraill y wlad; yn nghyda personau ac amgylchiadau hynod yn hanes cenedl y Cymry. Gwasanaethu y cymdeithasau llenyddol, hyrwyddo amcan daionus yr Eisteddfodau, a chadw hen ysgrifau Cymreig rhag myned ar ddifancoll. II. Hanesyddiaeth y byd a'r amseroedd: yn cynnwys rhyfeddodau natur a chelfyddyd yn mhob parth o'r byd, teithiau mewn gwledydd pellenig gan bersonau nodedig, anturiaethau a pheryglon ar dir a môr, &c. III. Traethodau ar wahanol ganghenau gwybodaeth, a'r celfyddydau, ieithyddiaeth, ac addysg gyffredinol, hanes bwystfilod, adar, pysg, ac ymlusgiaid, Eglurhadaeth Ysgrythyrol, detholion o emau duwinyddol. IV. Ffug—hanesion o duedd i ddyrchafu rhinwedd, darostwng llygredd, ac argymhell ymddyrchafiad trwy ddiwydrwydd, cysondeb, a dyfalbarhad. V. Barddoniaeth a cherddoriaeth. VI. Gohebiaethau, ateb gofynion, amrywion, manion, a dyddanion." Dywed y cyhoeddwr, yn ei sylwadau "At ein Darllenwyr." yn nechreu y gyfrol gyntaf, mai hwn "oedd yr unig gyhoeddiad llenyddol Cymreig a chyffredinol oedd ar y pryd," ac ymddengys mai i'r amcan hwnw y cyhoeddwyd ef. Efallai mai un o'i ddiffygion oedd ei fod braidd yn anghyflawn a chyfyng, yn enwedig wrth ystyried yr honai fod yn gyhoeddiad hollol genedlaethol a chyffredinol—esgeulusid rhai canghenau pwysig yn gwbl ynddo, ac, o bosibl, ei fod, ar y dechreu, wedi addaw mwy nag y gallai ei gyflawni. Ber a fu ei oes, oherwydd ceir mai rhifyn am Rhagfyr, 1864, oedd yr olaf ohono a ddaeth allan.

Aelwyd y Cymro, 1865.—Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn hwn yn Ionawr, 1865, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. Lewis Jones, argraphydd, Llan-