Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd yn ei olygu, ac argrephir ef gan Mr. W. Lloyd, 65, Low Hill, Lerpwl. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw dwy geiniog. Dywedir, ar ei wyneb-ddalen, ei fod yn "gylchgrawn at wasanaeth crefydd a llenyddiaeth, yn mysg Cymry Liverpool, Manchester, a'r Amgylchoedd." Cynnwys ei rifyn cyntaf ydyw:—"Pregeth ar Talitha, Cwmi'" (Marc v. 41—42), "Y diweddar Barch. John Thomas, D D.," gan y Parch. D. M. Jenkins, Lerpwl, "Y Celt, y Teuton, a'r Sais" (a draddodwyd o flaen y Gymdeithas Genedlaethol Gymreig), barddoniaeth ar "Wrth fedd Henry Rees," ac adolygiad ar y llyfr diweddar a gyhoeddwyd ar "Howell Harris a'r Diwygiad."