Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/203

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae llawer o ferched Cymru, drwg genym orfod credu, yn ddigon diffygiol ynddynt, a da y gwnaent pe rhoddent well cefnogaeth i gyhoeddiadau a fyddent yn amcanu at eu dysgu, eu goleuo, mewn gwahanol ganghenau arolygiaeth deuluaidd, a byddai hyn yn un cynnorthwy iddynt tuagat fod yn well gwragedd a mamau. Mae yn syndod y bu iddynt fod mor ddifraw gyda chylchgronau a gychwynwyd yn un pwrpas i'w gwasanaethu. Gyda golwg ar ein cylchgronau cerddorol-nid oes, am a wyddom ni, ond y da i'w ddyweyd. Dywedodd y diweddar Barch. D. Saunders, D D., Abertawe, ar ddiwrnod angladd Ieuan Gwyllt, Mai 19eg, 1877, ar lan ei fedd yn mynwent Caeathraw, ger Caernarfon, wrth son am ddylanwad Ieuan Gwyllt ar gerddoriaeth Gymreig, na wyddai ef "am ddim, hyd yn nod yn yr iaith Seisonig, ar y pryd hwnw, oddigerth The Musical Times, yn cynnwys sylwadau mor werthfawr ar gerddoriaeth â'r rhai a geid yn Y Cerddor Cymreig, ac yn ei farn ef nid oedd hyd yn nod y cyhoeddiad hwnw—The Musical Times—yn deilwng i gael ei gydmaru â rhifynau Y Cerddor Cymreig yn ei dair blynedd cyntaf." Gellir dyweyd fod y cyhoeddiad hwn, mewn rhyw ystyr, wedi cynnyrchu, i raddau pell, ysgol o gantorion i Gymru, megis Meistri John Thomas, Llanwrtyd W. T. Rees (Alaw Ddu); Dafydd Lewis, Llanrhystyd; Emlyn Evans, &c. Bu y cylchgrawn hwn, mewn rhan fawr, yn effeithiol i ddyfod â'r wlad yn lled gyffredinol yn ffafriol i gyfundrefn y Tonic Solffa, & diau, beth bynag ellir ddyweyd am ei diffygion, ei bod yn gyfundrefn fanteisiol iawn i wneyd cerddoriaeth yn eiddo i'r lluaws, ac y mae yn egluro y gwirionedd mawr sydd wrth wraidd cerddoriaeth fel gwyddor, sef perthynas pob sain â'r cywair-sain. Bron nad ellir dyweyd ei bod wedi dyfod yn gyfundrefn gyffredinol drwy Gymru, a gwelwn fod amryw fanau eisoes wedi dathlu ei Jubili,