Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/207

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daionus. Gwelir fod genym amryw gyhoeddiadau wedi bod yn dal cysylltiad neillduol a dirwest, a diau eu bod, yn eu ffordd eu hunain, wedi gwneyd lles, ond drwg genym orfod dyweyd na ddarfu i'r un ohonynt, hyd yn hyn, ddyfnhau, gwreiddio, a chymeryd gafael llwyr a pharhaus yn nghalon Cymru. Machludant oll yn fuan. Gyda golwg ar ddylanwad ein cylchgronau cenhadol, gellir dyweyd ei fod, cyn belled ag y mae yn myned, wedi cyrhaedd yn lled ddwfn. Yr anffawd fwyaf gyda'r cyhoeddiadau hyn ydyw mai codi a gostwng y maent, ac ymddengys i ni mai nid anfuddiol a fyddai fod genym, fel cenedl, un cyhoeddiad cenhadol a fuasai yn cymeryd i mewn holl agweddau yr achos hwn—cartrefol a thramor —yn mhlith yr holl wahanol lwythau crefyddol yn Nghymru. Buasai hyny yn achlysuro mwy o gydnabyddiaeth rhyngom, ac yn foddion i gynnyrchu dyddordeb yn ngweithrediadau cenhadol ein gilydd. Ceir fod bron yr holl gylchgronau crefyddol a feddwn yn rhoddi lle i hanes y genhadaeth dramor, a phrif amcan hyn, ar y cyntaf, ydoedd i'r hanes gael ei ddarllen yn gyhoeddus yn Nghyfarfod Gweddi Cenhadol y nos Lun gyntaf yn mhob mis, a darfu i'r arferiad dda hon ddechreu pennod newydd yn hanes cyfarfodydd gweddiau Cymru. Bu cyhoeddi y newyddion hyn yn foddion i feithrin yspryd gweddi ar ran yr achos hwn, ac i ychwanegu haelioni crefyddol yn yr un cyfeiriad, a chredwn, rhyngddynt oll, y bu yn foddion, mewn rhan, i gynnyrchu yspryd cenhadol mewn llawer o'r bobl ieuainc, a'r canlyniad ydyw, erbyn hyn, y ceir Cymry wedi troi allan yn genhadon i lawer o'r gwledydd paganaidd, ac ystyrir rhai ohonynt yn dra llwyddiannus. Yn mhlith yr ysgrifau a dynasant fwyaf o sylw yn ein llenyddiaeth gylchgronol, yn enwedig yn y blynyddoedd diweddaf hyn, ceir eiddo ysgrifenydd a alwai ei hunan yn "Siluriad," y rhai a ymddangosent, o dro i dro, yn