Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD I

HANES Y NEWYDDIADUR CYMREIG

CAREM, cyn dechreu rhoddi hanes Newyddiaduron Cymru, wneyd dau sylw eglurhaol: (1) Fod nifer fawr o newyddiaduron Seisonig yn cael eu cyhoeddi yn Nghymru. Ymddengys, yn ol yr amcangyfrif diweddaf, yr argrephir yn awr oddeutu pedwar ugain o wahanol newyddiaduron—rhwng yr oll (Cymraeg a Seisonig)—yn Nghymru. Gellir dyweyd fod lluaws o'r newyddiaduron Seisonig hyn yn cynnwys colofn neu ddwy, neu dair, yn yr iaith Gymraeg, a chredwn y caniateir, yn achlysurol, os bydd rhesymau digonol dros hyny, i ohebiaethau Cymreig ymddangos ynddynt. (2) Fod yr hen Almanaciau Cymreig, yn ogystal a'r hen Gyfnodolion Cymreig, i raddau helaeth, yn amcanu at gyflawni gwasanaeth newyddiaduron, cyn i lenyddiaeth newyddiadurol (yn ystyr fanwl y gair) ymddangos yn ein gwlad. Byddent, yn eu ffordd eu hunain, yn meddu cyfuniad o'r newyddiadurol a'r cylchgronol, ac yn ol eu gallu ar y pryd, llanwent ddiffyg pwysig yn ein llenyddiaeth, a gwnaent garedigrwydd â'r wlad.

Seren Gomer, 1814.—Cydolygir yn gyffredin mai cychwyniad Seren Gomer oedd yr ymgais wirioneddol gyntaf i gychwyn newyddiadur rheolaidd yn yr iaith Gymraeg. Ystyrid ef, o ran ffurf, trefn, a chynnwys, yn newyddiadur. Daeth y rhifyn cyntaf ohono allan Ionawr 1af,