Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1814, a pharhaodd i ddyfod allan yn wythnosol hyd Awst 9fed, 1815, ac felly daeth allan 85 rhifyn. Pris y 66 rhifynau cyntaf oedd chwe' cheiniog -a -dimai y rhifyn, a phris y 19 rhifynau diweddaf oedd wyth geiniog y rhifyn. Ei faintioli ydoedd pedwar tudalen, yn mesur ugain modfedd wrth bymtheg. Dywedir nad yw y gyfrol sydd yn cynnwys yr holl rifynau ond prin fodfedd o drwch, ond yr oedd yn werth, yn newydd, oddeutu £2 8s. 5c., heb ei rhwymo. Cychwynwyd a golygwyd ef gan y Parch. Joseph Harris (Gomer), Abertawe, gweinidog enwog & defnyddiol gyda'r Bedyddwyr, ac argrephid ef gan Mr. David Jenkins. Gomer oedd y prif anturiaethwr, ond darfu i amryw eraill ymuno âg ef yn y symudiad, a gwir ddrwg genym orfod dyweyd iddynt—cyd-rhyngddynt—golli oddeutu mil o bunnau yn yr anturiaeth. Darfu i'r newyddiadur Cymreig cyntaf hwn, mewn ystyr arianol, droi allan yn fethiant hollol. Diau mai у prif reswm dros yr aflwyddiant hwn oedd fod y treuliadau yn llawer iawn uwch na'r 'derbyniadau; ac er fod ei bris yn uchel, eto nid oedd hyny ond megis dim i gyfarfod treuliau newyddiadurol yr amseroedd hyny. Ychydig a dderbynid oddiwrth hysbysiadau (advertisements), ac nid oedd ei holl gylchrediad yn cyrhaedd dwy fil. Edrychid arno fel newyddiadur cwbl anenwadol—heb broffesu bod yn perthyn i unrhyw blaid—yn wladol na chrefyddol—ac ysgrifenid iddo gan lawer o oreugwyr y genedl. Wele ychydig eiriau o'r anerchiad at y darllenwyr yn y rhifyn cyntaf o hono:—"Bydd i Seren Gomer wyrebu ar derfynau anwybodaeth, a gwahodd y preswylwyr yn gariadlawn i fwynhau pleserau gwybodaeth. Bydd yn cynnwys hanesion pellenig a chartrefol, am ryfel a heddwch, newyddion gwladol ac eglwysig, crynodeb o'r cyfreithiau newyddion a wneir yn ein hamser,