Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymdrechiadau a llwyddiant y cenhadon Cristionogol yn mhlith eilunaddolwyr, pris yr ŷd, ac amryw bethau eraill, amser ffeiriau yn y Dywysogaeth, yn nghyda phobpeth arall hefyd a fyddo yn gyson â moesoldeb, tra y byddo lle; canys tra bo yn llewyrchu ar achosion y fuchedd bresennol, fe ymdrechir ei thebygu i'r un yn y Dwyrain i dywys at Seren Jacob, neu hyd at yr Hwn a anwyd i fod yn Frenin i'r Iuddewon." Wele eto ychydig eiriau o'r anerchiad derfynol yn y rhifyn diweddaf a ddaeth allan o hono:— "Pan ystyriom fod y rhan amlaf o bendefigion à boneddigion ein gwlad yn esgeuluso ymgeleddu iaith eu cenedl, a bod tuedd y lluaws yn mhob gwlad i efelychu y mawrion, hyd yn nod pe tywysai hyny hwy dros glogwyni dinystr—pan feddyliom fod ein tywysogaeth yn dra toreithiog yn ei chawd o gybyddion—pan gofiom fod ynddi lawer o dlodion—a phan gadwom yn ein meddwl fod llawer o frodyr Dic Shon Dafydd yn ein mysg, yr hwn, wedi bod ohono ychydig flynyddau yn mysg y Saeson, a ddychwelodd i Sir Aberteifi, a methodd siarad â'i fam, nes gyru am berson y plwyf i ddehongli rhyngddynt; pan ystyriom hyn oll, nid rhyfedd iawn fod papyr wythnosol, gwerth wyth geiniog, yn methu sefyll." Anaml, os byth, y ceid ynddo erthyglau arweiniol, ac amlwg ydoedd ei fod yn hynod ochelgar rhag ysgrifenu dim yn erbyn y Llywodraeth. Wrth son am y Newyddiadur Cymreig cyntaf a ymddangosodd yn yr iaith, goddefer i ni ddadgan ein crediniaeth nad ydyw cenedl y Cymry hyd yma wedi talu y warogaeth ddyledus i goffadwriaeth yr anfarwol Gomer. Gellir ei ystyried o wir arweinwyr llenyddol Cymru, ac ar rai cyfrifon gellir ei alw yn un o sylfaenwyr ein llenyddiaeth yn ei sefylla bresennol, a diau ein bod, fel cenedl, dan ddyled drom iddo.