Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/217

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn ydoedd yr ymgais gyntaf i sefydlu newyddiadur Cymreig yn yr America, Yn y flwyddyn hono, modd bynag, torodd y cholera allan yn New York, a gwnaeth ddifrod ofnadwy yno, a dyrysodd fasnach y lle, a'r canlyniad a fu i Cymro America gael ei roddi i fyny, ar gyfrif diffyg arianol.

Haul Gomer, 1848.—Daeth y rhifyn cyntaf allan yn Ionawr, 1848, a chychwynwyd ef gan Mr. Evan E. Roberts (Ieuan o Geredigion), Utica, ac efe ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu, a golygid ei farddoniaeth gan Mr. John Edwards (Eos Glan Twrch). Deuai allan yn bymthegnosol, a'i bris ydoedd dolar y flwyddyn. Ni pharhaodd yn hwy na mis, a rhoddwyd ef i fyny oherwydd nad ellid cael cysodwyr i'w weithio.

Y Drych, 1851.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan Ionawr 2il, 1851, a chychwynwyd ef gan Mr. John M. Jones, New York, ac efe oedd ei berchenog a'i olygydd. Darfu iddo ef, yn Rhagfyr, 1854, werthu y newyddiadur hwn i Gwmni Cymreig yn New York, a bu, am flynyddoedd wedi hyny, dan olygiaeth Mr. John W. Jones (Llanllyfni, Gogledd Cymru), New York, ac, ar ol hyny, bu Mr. Joseph W. Nichols (Neifion), yn ei olygu. Argrephid ef, ar y dechreu, gan Mr. Benjamin Parry, New York, ac wedi hyny gan y Meistri Richards a Jones, New York, Unwyd Y Gwyliedydd âg ef am y blynyddoedd 1855-8, ac wedi hyny torwyd ymaith Y Gwyliedydd. Bu y Parchn. Morgan A. Ellis a T. B. Morris yn is-olygwyr i'r newyddiadur hwn am lawer blwyddyn. Unwyd Baner America â'r Drych yn y flwyddyn 1877. Yn y flwyddyn 1890 cysylltwyd Y Wasg a'r Drych. Cyhoeddir Y Drych yn wythnosol bob boreu Iau, a'i bris ydyw $2.00 yn y flwyddyn. Ei berchenog presennol ydyw Mr. T. J. Griffith, Exchange Buildings, Utica, ac efe hefyd sydd yn ei argraphu, a bu yn cael ei olygu gan y