Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn. Cyhoeddid ef yn bymthegnosol, a chynnwysai bedair-ar-hugain o dudalenau wythplyg. Ond ni pharhaodd i ddyfod allan yn hir.

Y Wasg, 1868.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1868, gan y Parch. Richard Edwards, Potsville, Pa., ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Dywedir mai yn mhlith y Bedyddwyr y caffai gylchrediad fwyaf, ond am enyd fer y parhaodd i ddyfod allan.

Yr Ysgol, 1869, Blodau yr Oes a'r Ysgol, 1872.—Daeth Yr Ysgol allan yn y flwyddyn 1869, a chychwynwyd ef gan Mr. H. J. Hughes, New York, ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Cyhoeddiad misol ydoedd, ac wedi ei gychwyn er gwasanaethu plant ac ieuenctyd Cymry yr America, a'i bris ydoedd dolar y flwyddyn. Rhoddid darluniau ynddo, ac yr oedd yn mhob modd yn un o'r cyhoeddiadau bychain mwyaf cymhwys a ellid gael i blant. Pan fu farw Mr. Hughes, ei berchen a'i olygydd, rhoddwyd Yr Ysgol i fyny, ond ceir, ar ol yspaid, yn y flwyddyn 1872, fod Meistri William Ap Madoc a T. Solomon Griffith, Utica, wedi ei ddwyn allan o'r newydd dan yr enw Blodau yr Oes a'r Ysgol, am yr un bris, ac i'r un amcanion, ac argrephid ef gan Mr. T. J. Griffith, Utica. Yn fuan, modd bynag, prynwyd ef gan y Parchn. M. A. Ellis a T. C. Edwards (Cynonfardd), D.D., a dygasant ef allan yn rheolaidd hyd ddiwedd y flwyddyn 1875.

Y Negesydd, 1871.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1871, gan Mr. R. T. Daniels, Pittsburgh, Pa., ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Cyhoeddiad misol ydoedd, a rhoddwyd ef i fyny yn lled fuan ar ol ei gychwyniad. Ystyrid ef yn gylchgrawn bychan digon destlus a derbyniol.

Yr Ymwelydd, 1871.—Daeth y cylchgrawn hwn allan oddeutu diwedd y flwyddyn 1871, gan Mr. Henry M.