Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edwards, cyfreithiwr, Hyde Park, Luzerne Co., Pa., ac efe hefyd ydoedd yn ei gyhoeddi ac yn ei olygu. Cyhoeddiad bychan ydoedd, a deuai allan yn fisol, a chynnwysai ysgrifau da gan y Parch Frederick Evans (Ednyfed), Dewi Glan Twrch, ac eraill.

Y Wawr, 1875.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1875, gan y Parch. Owen Griffith (Giraldus), ac efe yw ei berchenog, ei gyhoeddydd, a'i olygydd. Daw allan yn fisol, a'i bris ydyw $1-50 yn flynyddol. Cynnwysa ddeuddeg-ar-hugain o dudalenau wythplyg. Cyhoeddiad crefyddol ydyw, ac edrychir arno fel yn perthyn, yn fwyaf arbenig, i'r Bedyddwyr Cymreig yn yr America. Mae yn gylchgrawn da, a pharha i ddyfod allan, gan gael cylchrediad lled eang.

Cawn fod cylchgronau Cymreig eraill wedi bod ar y maes yn yr America, megis Cambro America (yr hwn a barhaodd am yspaid y blynyddoedd 1854-8), Y Ford Gron (1863), Y Glorian (1869–71), Yr Yspiydd (1871—3), Yr Eryr (1879), Llais y Gân (1883), Y Brython, Y Gwron Democrataidd, &c., ond ni ddarfu i'r rhan fwyaf ohonynt fawr fwy na phrin ymddangos, ac yna diflanu o'r golwg.

Yr Awstralydd, 1867.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1867, dan olygiaeth y Parch. W. M. Evans, Ballarat, a chychwynwyd ef, yn benaf, gan Mr. George Jones, Smythesdale, ac argrephid ef yn swyddfa y Meistri Jones a Macarthy, Smythesdale. Oddeutu y flwyddyn 1871, ymgymerodd Mr. Theophilus Williams, Ballarat, â'r olygiaeth, a symudwyd ef i gael ei argraphu gan Mr. Edward Jacob Jones, Melbourne, yr hwn ydoedd yn nglyn ag ef yn Smythesdale o'r cychwyniad. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd chwe' cheiniog. Darfu i Mr. Jones, modd bynag, yn mhen yspaid, symud i fyw i New South Wales, a symudodd amryw o'r Cymry eraill