Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er adeg ei gychwyniad: nid ydoedd, ar y dechreu, ond prin haner ei faintioli presennol, ac felly y parhaodd am oddeutu tair blynedd; ac yn y flwyddyn 1860, ychwanegwyd ato bron yr haner, ac ar ol ychydig amser drachefn gwnaed helaethiad arall arno trwy ychwanegu at hyd yr holl golofnau yn mhob tudalen. Ond yn y flwyddyn 1890, gwnaed helaethiad pwysig arall trwy roddi colofn ychwanegol yn mhob tudalen, fel, erbyn hyn, y ceir un-ar-bymtheg o dudalenau yn cynnwys pum' colofn yr un, a diau fod yr helaethiad diweddaf hwn yn gyfystyr âg ychwanegu ato bedair tudalen. Prin y mae anghen hysbysu fod y newyddiadur hwn, yn ei olygiadau gwleidyddol, yn Rhyddfrydol. Ceir ynddo erthyglau arweiniol ar brif gwestiynau y dydd, newyddion neillduol oddiwrth ohebydd Cymreig yn y Deheudir, Llythyrau oddiwrth ohebwyr arbenig o Lundain, Manchester, a Lerpwl, gohebiaethau at y golygydd, adolygiad y wasg (yn cynnwys sylwadau beirniadol ar gyhoeddiadau a llyfrau Cymreig), hanes gweithrediadau y Senedd, y Cynghorau Sirol, &c., colofn dan yr enw "Cyfalaf a Llafur," digwyddiadau yr wythnos (yn gartrefol a thramor), newyddion Cymreig cryno o'r Gogledd a'r Deheudir, barddoniaeth yn cynnwys beirniadaeth ar y cynnyrchion barddonol fydd yn dyfod i law), hanes Cyfarfodydd Misol, Chwarterol, a Blynyddol y gwahanol gyfundebau Crefyddol, Yma ac Acw, manylion am y marchnadoedd a'r ffeiriau (Cymreig a Seisonig), &c. Gwelir fod ei gynnwys yn amrywiol, ac yn cario arlwyaeth ffyddlawn i ddarllenwyr Cymru bob wythnos; ac wrth ystyried hyn oll, nid yw yn syndod ei fod yn gallu cyfrif ei dderbynwyr wrth y miloedd.

Y Gwladgarwr, 1857.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn 1857, gan y gwladgar Alaw Goch (tad y Barnwr Gwilym Williams), ac argrephid ef gan Mr.