Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Howell, Aberdâr. Ei olygwyr a'i brif ysgrifenwyr, dros y flwyddyn gyntaf, oeddynt y Parchn. B. Evans, J. Rowlands, H. Cefni Parry, a T. E. James; ond, yn y flwyddyn ddilynol, bu ychydig gyfnewidiad, trwy i'r ddau ddiweddaf ymneillduo, a chymerwyd eu lle gan y Parchn. J. Spinther James ac H. Gwerfyl James. Nid ydym yn deall iddo barhau i ddyfod allan ond am oddeutu dwy flynedd. Cychwynwyd y newyddiadur hwn, yn benaf, er mwyn gwasanaethu Bedyddwyr Cymru, ac felly yn eu plith hwy y derbynid ef fwyaf.

Y Gwyliedydd, 1870.—Cychwynwyd hwn yn nechreu y flwyddyn 1870, gan Mr. Lewis Jones, argraphydd, Llanerchymedd, ac efe hefyd oedd yn ei olygu. Lleol oedd ei nodwedd, a'i bris ydoedd dimai, ac ni pharhaodd ond am oddeutu pedwar mis.

Llais y Wlad, 1874.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn oddeutu dechreu y flwyddyn 1874, ac ychydig wythnosau yn flaenorol i'r Etholiad Cyffredinol yn y flwyddyn hono. Argrephid ef gan y Meistri Douglas, cyhoeddwyr, Bangor, a golygid ef hyd yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1880, gan y Parch. T. Tudno Jones, Llanrwst (Bangor y pryd hwnw). Yn Mawrth, 1881, ymgymerodd y Parch. Evan Jones, Llangristiolus (gynt o'r Gaerwen), â'r olygiaeth. Pris dechreuol y newyddiadur hwn ydoedd dimai, ond, yn fuan wedi hyny, helaethwyd ef, a chodwyd ei bris i geiniog. Er nad oedd unrhyw gysylltiad swyddogol rhyngddo â'r Eglwys Sefydledig, eto yr oedd yn ddealledig mai dan nawdd Eglwysig yr ydoedd, ac ystyrid ef, yn arbenig oddeutu adeg ei gychwyniad, fel yn Geidwadol iawn ei syniadau. Pan ymgymerodd Mr. Evan Jones âg ef, teg ydyw dyweyd iddo newid ei gyfeiriad, a daeth yn newyddiadur annibynol hollol, a deallwn fod hyny wedi bod yn achlysur i'r gwŷr Eglwysig dynu yn ol eu cefnogaeth oddiwrtho. Daeth Llais y