Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ceir y geiriau, "Diwedd Cyfrol III" Dechreuwyd y bedwaredd gyfrol (Llyfr IV.) ya Mawrth, 1823, ond ni ddaeth allan o hono ychwaneg na deg rhifyn, sef rhai am Mawrth a Gorphenaf, 1823; Ionawr, Gorphenaf, a Rhagfyr, 1824; Mehefin a Hydref, 1825; Mawrth a Tachwedd, 1826; Awst, 1827, ac yna ciliodd yn sydyn a dirybydd, a bu am lawer blwyddyn cyn dyfod i'r golwg. Dylid dyweyd fod gan yr hen gylchgrawn hwn, yn y blynyddoedd hyny, gyd-ymgeisydd diwyd, oherwydd ceir yn mis Tachwedd, 1818, fod Goleuad Gwynedd yn cael ei gychwyn gan y Parch. John Parry, Caer, ac efe oedd yn ei olygu, ac argrephid ef gan Mr. J. Fletcher, Caerlleon. Cylchgrawn ydoedd hwn yn cynnwys cynnulliad o fyr-draethodau, hysbysiadau, addysgiadau, a choffadwriaethau, o natur foesol, difyrol, gwladol, ac eglwysig, yn nghydag amryw gyfansoddiadau mewn barddoniaeth." Nid oedd yn annhebyg, o ran ffurf a maintioli, i'r cyfnodolion presennol. Mae yn syndod fod ei argraphwaith, ar adeg mor gynnar, yn edrych mor ddestlus llythyren fras a glanwaith, papyr cryf a thrwchus, ac mewn diwyg dda. Er nad oedd unrhyw gysylltiad swyddogol rhyngddo a'r Methodistiaid Calfinaidd, eto, mae yn amlwg oddiwrth ei gynnwys, ei fod yn gwasanaethu, yn benaf, i amcanion y cyfundeb hwnw. Ar wyneb-ddalen y rhifyn cyntaf, ceir yr ymadroddion canlynol:—

"Eu Ner a folant
Eu hiaith a gadwant,
Eu tir a gollant,
Ond Gwyllt Walia."

Yn y rhagymadrodd i'r rhifyn am Rhagfyr, 1818, o Goleuad Gwynedd, dywed y golygydd: "Ond beth sydd gan y Cymro uniaith fel moddion goleuni Gwir yw ei fod wedi ei anrhydeddu â 'chanwyll y gorchymyn,'