Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr Richard Jones, Dolgellau; 1824—6, Mr. Robert Jones, Llanfaircaereinion; 1827—35, Mr. John Jones, (Idrisyn), Llanidloes; 1836—46, Mr. John Mendus Jones, Llanidloes; 1847—52, Mr. John Jones, Llanidloes; ac er y flwyddyn 1853 hyd yn bresennol (1892) argrephir y cylchgrawn hwn gan Mr. John Mendus Jones, Llanidloes & Bangor. Er cymaint o gyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle yn yr olygiaeth a'r argraphwaith, mwy felly nag odid gyda'r un cyhoeddiad arall, eto da genym weled Yr Eurgraun wedi gor-oesi yr oll, a deil heddyw i edrych mor iach ac ieuanc ag erioed; ac yn yr ystyr o fod wedi parhau i ddyfod allan yn yr un ffurf, enw, cysylltiadau, amcanion, &c., o'r cychwyniad cyntaf hyd yn bresennol, gellir yn deg ei ystyried fel y cylchgrawn hynaf sydd yn fyw yn awr yn Nghymru, ac y mae y ffaith hono yn ychwanegu llawer at ei ddyddordeb.

Greal y Bedyddwyr, 1817, 1827.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn gyntaf yn Ionawr, 1817, gan y Parch. Joseph Harris (Gomer), ac efe oedd yn ei olygu, a bwriedid iddo fod yn gyhoeddiad enwadol yn dal cysylltiad â'r Bedyddwyr. Cynnwysai y rhifyn cyntaf hwn ddeuddeg-tudalen-ar-hugain, a cheid erthyglau ynddo ar "Athrawiaeth Iachus," "Pregeth ar Rhuf. viii. 32," "Sylwadau Athronyddol," "Gofyniadau," "Ymadroddion Detholedig," &c., ond drwg genym ddyweyd mai aflwyddiannus a fu y cais hwn, gan na ddaeth yr un rhifyn arall allan ar ol y cyntaf, ar gyfrif diffyg cefnogaeth. Cychwynwyd, modd bynag, gyhoeddiad arall o'r un enw, yn y flwyddyn 1827, gan gwmni lluosog yn perthyn i'r Bedyddwyr. Ei bris ydoedd chwe' cheiniog, ac elai yr elw i "weinidogion oedranus," a rhanwyd ugain punt fel elw y flwyddyn gyntaf, a £23 fel elw yr ail flwyddyn, ond ymddengys na ellid