Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhanu dim ar ol hyny. Dywedir, ar wyneb-ddalen y gyfrol gyntaf, ei bod wedi ei chyhoeddi dan olygiaeth "John Herring, Aberteifi," a dywedir ar wyneb-ddalen yr ail gyfrol, ei bod wedi ei chyhoeddi dan olygiaeth "John Herring ac eraill." Bernir mai wrth yr "eraill " hyn y meddylir Mr. Joshus M. Thomas, Aberteifi. Nid oes neb yn cael ei enwi ar wyneb-ddalen y drydedd gyfrol, ond ceir fod y rhagymadrodd wedi ei arwyddo gan "y golygwyr." Ni cheir enw neb, fel golygydd, ar yr un o'r tair cyfrol arall a gyhoeddwyd yn Aberteifi, ond arwyddir y rhagymadrodd, am y blynyddau hyn, gan "y golygydd," a bernir mai Mr. Joshua M. Thomas ydoedd hwnw. Gwelir mai am chwe' blynedd y cyhoeddwyd Greal y Bedyddwyr yn Aberteifi, ac argrephid ef yno, "dros y dirprwywyr," gan Mr. Isaac Thomas. Symudwyd ef, yn nechreu y flwyddyn 1833, i gael ei argraphu i Caerdydd. Nid oes son am hyn yn y cyhoeddiad ei hunan—ond gwelir oddiwrtho mai yn Aberteifi yr argraphwyd y rhifyn am Ionawr y flwyddyn hono, ac mai yn Caerdydd yr argraphwyd y rhifyn am Chwefror. Dengys y rhagymadrodd i'r gyfrol am y flwyddyn 1833, fod y cyhoeddiad hwn, erbyn hyny, wedi dyfod i feddiant Mr. John Jenkins a'i Feibion, Hengoed, a chymerodd hyn le yn unol â chytundeb y deuwyd iddo gyda dirprwywyr Greal y Bedyddwyr, yn y flwyddyn 1827. Ceir, ar ol hyny, fod yr holl ofal i olygu, ac i argraphu, y cylchgrawn hwn yn disgyn ar deulu Mr. Jenkins, a pharhaodd felly am bum' mlynedd, sef hyd ddiwedd y flwyddyn 1837. Gwelir felly fod y cyhoeddiad hwn, er nad yn dal unrhyw gysylltiad swyddogol â'r Bedyddwyr, wedi eu gwasanaethu yn ffyddlawn am oddeutu un-mlynedd-ar-ddeg, ac ar gyfrif amgylchiadau teuluaidd Mr. Jenkins y rhoddwyd ef i fyny.