Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/319

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2 Cyfiawnder Duw sydd yno'n ddisglair iawn,
A'r gyfraith bur bob iod ohoni'n llawn;
Ond i bechadur, melys yw y sain
Fod trugareddfa hefyd rhwng y rhain.

3 Mae'r Archoffeiriad yn taenellu'r gwaed,
Mewn gwisgoedd sanctaidd, llaesion, hyd ei draed,
O fewn y llen, sancteiddiaf lys y nef,
Ac enwau'r llwythau ar ei ddwyfron Ef.

4 Prïodoliaethau'r nefoedd yn gytûn
Sydd yno'n gwenu ar golledig ddyn;
Mae hedd yn awr o'r nef i'r llawr yn lli,
A noddfa gref o fewn y nef i ni.

5 Crist ydyw'r Arch a'r Drugareddfa rad;
Yn enw Hwn anturiwn at y Tad;
Fe wrendy gŵyn pechadur heb ei ladd,
Fe gymer blaid yr enaid isel radd.

—James Hughes (Iago Trichrug)


392[1] Gweddi am Gymdeithas â Duw.
11. 11. 11. 11.

1 O! TYRED, f'Anwylyd, fy Arglwydd yn ddyn,
Preswylia mewn temel a godaist dy Hun:
Dy lais sy mor beraidd, mor hyfryd dy wedd,
Dy olwg sy'n concro marwolaeth a'r bedd.

2 Boed imi'n hyfrydwch, o fore hyd nos,
Gael canu am gariad a chonewest ei groes-
Gogoniant ei Berson, rhinweddau pob gras,
Trwy boenau ofnadwy yn ennill y maes.

3 Gad imi gael heddwch, y perl sy'n fwy drud
Na meddiant holl India'r Gorllewin i gyd ;
Mae gradd o dangnefedd fy Iesu mor fawr,
Fe bwysa ei hunan y nefoedd a'r llawr.

—William Williams, Pantycelyn


  1. Emyn rhif 392, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930