Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/483

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2 Cawn weld yr addfwyn Oen,
Fu farw ar y bryn,
Yn medi ffrwyth ei boen
Yn hyfryd y pryd hyn;
Bydd myrdd heb rif yn canu 'nghyd
I'r Hwn fu farw dros y byd.

—William Williams, Pantycelyn


663[1]Diogelwch y Saint yng Nghrist.
66. 84. D.

1 AM fod fy Iesu'n fyw,
Byw hefyd fydd ei saint;
Er gorfod dioddef poen a briw,
Mawr yw eu braint:
Bydd melys lanio draw,
'N ôl bod o don i don;
Ac mi rof ffárwel maes o law
I'r ddaear hon.

2 Ac yna gwyn fy myd,
Tu draw i'r byd a'r bedd:
Caf yno fyw dan foli o hyd
Mewn hawddfyd hedd;
Yng nghwmni'r nefol Oen,
Heb sôn am bechod mwy,
Ond canu am ei ddirfawr boen
Byth gyda hwy.

—John Thomas, Rhaeadr


664[2]Heddwch Duw yn concro Angau.
66. 86. 86. 886.

O! DDUW, rho im dy hedd,
A golwg ar dy wedd,
A maddau'n awr fy meiau mawr,
Cyn elwy' i lawr i'r bedd:
Ond im gael hyn, nid ofna'i 'r glyn,
Na cholyn angau'n hwy;
Dof yn dy law i'r ochor draw,
Heb friw na braw, ryw ddydd a ddaw,
Uwchlaw pob loes a chlwy'.

—Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)


  1. Emyn rhif 663, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 664, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930