YR ORGRAFF. 17
:
C6 3) 66
2.-YR WYDDOR. Nid yw'r wyddor Gymraeg yn berffaith. 1. Y mae'r llythyren y yn cynrychioli dwy sain. Yn “ fry" a dyn y mae'r sain yn glir, eithr yn cyhuddo dymuno” y mae'n dywyll. Defnyddir y sain glir, (a) Mewn geiriau unsillaf, megis ym, ych, ynt (we, are, &c.), dyn, tŷ, brys, rhyd, &c., ac eithrio'r geiriau a bwysa ar eiriau eraill, megis y, yr, yn, fy, dy.
(6) Yn sillaf olaf geiriau â mwy nag un sillaf, megis plentyn, sydyn. Gwelir oddiwrth y gair sydyn mai'r sain dywyll a roddir i'r y yn y sillaf olaf ond un. Ceir y ddwy sain yn ydym, ydych, ydynt.
(c) Yn y ddeusain, wy, megis annwyl, annwyd, cwyn, &c.
2. Gwasanaetha i ac w swydd cydseiniad a llafariad, incgis cuddio-gweddio ; gwêr (fat)-gwer (shelter).
Yn y ddeuair cyntaf y mae'r i a'r w yn gydseiniaid, ac yn y ddeuair olaf yn llafariaid.
3 Saif yr un llythyren am y sain hir, y sain ganol a'r sain fer, c.e., cân, canu, cannu; tôn, tonau, tonnau.
Dynodir hyd llafariaid drwy gynhorthwy'r hirnod (^) a thrwy gadw'r ddwy gydsain wreiddiol, c.l., tâl (pay), onn (ash).
4. Nid oes yn yr wyddor lythrennau i gynrychioli seiniau benthyg, megis, – (a) sh, o flaen g,—dishgwyl (disgwyl); mishgl (misgl— mussels). (Yn y Gogledd s a seinir yma, nid sh). O flaen i gydsain,-eishiau (eisiau).