Tudalen:Llyfr Owen.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR oedd y Llywodraethwr fel peth gwallgof. Y llymgi main tlawd hwnnw wedi medru ei dwyllo ef, a'i wneud yn wawd i'r dref i gyd, ac yn enwedig i'r rhai y gwnaeth gam â hwy mewn dull mor drahaus.

Ac i wneud pethau'n waeth eto, wele lythyr oddiwrth y gwir uchel swyddog, yn dweud ei fod yn dod, drannoeth, i ofyn i'r Llywodraethwr roddi cyfrif am lawer o bethau.

IV

Y GRAIG LOSG

1. Yr oedd geneth o'r enw Palma, un hynod brydweddol, yn byw dan gysgod mynydd Bucegi. Yr oedd yn dal ac urddasol yr olwg arni, ac yr oedd ei hurddas fel pe'n cuddio calon gynnes a serchog. Pwy a gerddai mor syth a hoyw â'r brydferth Balma? A phwy a feiddiai gellwair yn ysgafn â hi? Ac yr oedd ei chalon wedi ei rhoi i fugail o'r enw Tannas, a dydd y briodas yn neshau.

Cyn hynny daeth y gelyn dros y terfyn, a bu galw taer ar y gwŷr ieuainc i amddiffyn eu gwlad. Ymysg eraill, aeth Tannas. Beunydd dyheai Palma am hanes o faes y gwaed; a phan glywai fod y Rwmaniaid yn cwympo neu'n cilio, safai â'i phwys.