Tudalen:Llyfr Owen.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

idiferodd Palma ddiferynnau oerion peraidd o'i llestr ar enau sychedig, a thorrodd newyn llawer clwyfedig â rhan o'r dorth. Ond ym mha le yr oedd Tannas? Dywedai rhywbeth wrthi ei fod ynghanol y llu mawr a orweddai o'i blaen.

Pan oedd y bore yn dechrau torri, gwelai ladrones yn ceisio tynnu modrwy oddiam fŷs milwr, ond ciliodd honno pan welodd Palma'n dod i'r cyfeiriad. Gorweddai'r milwr ar ei gefn, ac adnabu Palma ei modrwy ei hun. Ond ni buasai'n adnabod yr wyneb. Rhoddodd ergyd cleddyf glwyf hir ar draws ei ddau lygad, ac yr oedd gwaed wedi fferru ar yr wyneb i gyd. Golchodd Palma'r wyneb â dwylo tyner, crynedig. A rhywfodd, dan ei chyffyrddiad, rhedai'r gwaed yn gynnes. Nid oedd Tannas wedi marw, er ei fod ar drengi. Trwy ymdrechion Palma cadwyd ei fywyd, ond ni chafodd ei olwg yn ôl.

5. Daeth y rhyfel i derfyn, a daeth dedwyddwch yn ôl i bentrefydd Rwmania. Daeth dydd priodas Palma â Thannas. Yr oedd hi yn falch iawn o honno. Dyma arwr," meddai, " gwelwch y groes ar ei fynwes."

"A gwelwch hi ar fy wyneb," ochneidiai Tannas.

"Ac ni chaf weld Palma byth mwy."

Ond yr oedd yn ddedwydd iawn. A phan yn hen, dywedai mor arw' oedd y frwydr pan welid craig y Bucegi'n llosgi. A gelwir hi byth yn Pietra Arsa,—y Graig Losg.